3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 5 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:44, 5 Gorffennaf 2022

Fe ysgrifennais atoch chi yn ddiweddar, fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, yn gofyn ichi gynnwys deddfwriaeth ar lywodraethiant amgylcheddol yn eich datganiad chi heddiw. Yn amlwg, dyw hynny ddim wedi digwydd, er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud, dwi'n meddwl nôl yn 2018, eich bod chi am ddefnyddio'r cyfle cyntaf posib i ddeddfu ar y mater yma. Rŷn ni dal yn mynd i aros tan y flwyddyn nesaf, o beth dwi'n deall mewn ateb blaenorol, a'r flwyddyn wedyn hefyd. Fe gyfeirioch chi at y trefniadau interim. Does dim sail statudol i'r trefniadau yna. Mae'r asesydd interim heb bwerau gorfodi. Mae gweddill y Deyrnas Unedig wedi gweithredu ar hyn, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs—a byddwn i'n gofyn, felly, ydych chi'n cydnabod—mai Cymru nawr yw'r wlad gyda'r llywodraethiant amgylcheddol gwanaf yng ngorllewin Ewrop. Does bosib bod hynny'n ei wneud e'n fwy o flaenoriaeth i'ch Llywodraeth chi.