Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, rwyf i'n croesawu'r datganiad hwn yn fawr heddiw, y brwdfrydedd ar draws y Siambr dros y cwricwlwm newydd, yr arloesi y tu ôl i'r meysydd dysgu, a'r gydnabyddiaeth onest bod newid yn golygu her yn ein hysgolion. Mae fy nghwestiwn yn syml iawn, mewn gwirionedd, yn eich datganiad, yn ymwneud â rôl y consortia rhanbarthol addysg o ran cefnogi rhagoriaeth o fewn ein gweithlu addysgu ac addysg proffesiynol, a'r angen gwirioneddol hwnnw i hyrwyddo'r uchelgais mae eraill wedi sôn amdano yn ein hysgolion drwy'r cwricwlwm newydd.