Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n ganol haf. Pan fo'r cymylau'n codi, mae'n gyfnod o fedru gwisgo dillad ysgafn, crysau T, agor ein ffenestri, eistedd yn yr ardd, sychu'r dillad ar y lein, mwynhau barbeciw, a gwybod, fel arfer, nad yw'r biliau ynni ddim cweit mor uchel ag arfer, y mesurydd ddim yn troi cweit mor glou wrth i wres yr haul dwymo ein crwyn a'n tai. Ond eleni mae'r wybren yn llawn cymylau duon a hirddydd haf yn arwain nid at deimlad o ymryddhau ac ymlacio ond yn hytrach i ormod o bobl at gyfnod o ofid. Achos dyw storm economaidd y misoedd diwethaf heb godi, ac mae'r gwaethaf eto i ddod.
Mae effaith yr argyfwng costau byw wir yn ddychrynllyd. Mae cost llenwi tanc petrol neu ddisel y car ymhell dros £100 erbyn hyn. Mae cost bwydydd bob dydd fel pasta 50 y cant yn uwch, a bara yn 17 y cant yn uwch. Ac mae'r biliau ynni, sydd eisoes yn anghredadwy o uchel ac anfforddiadwy, ac wedi achosi sut bryder i gymaint o bobl Cymru, hyd yn oed nawr ym misoedd yr haf, yn mynd i godi'n uwch yn yr hydref. Mae angen sicrhau bod unrhyw fesurau i gefnogi pobl a fydd yn byw mewn tlodi tanwydd neu mewn perygl o dlodi tanwydd yn gwbl effeithiol, yn gwbl hygyrch i'r rhai sydd neu a fydd mewn angen, ac yn lleddfu y pwysau difrifol a'r dewisiadau amhosib a fydd yn wynebu gormod o aelwydydd Cymru pan fydd y storm ar ei hanterth, pan ddaw'r gaeaf.
Rydym wrth gwrs wedi croesawu cynlluniau'r Llywodraeth i geisio cefnogi pobl sydd yn llygad y storm. Ond mae ein hymchwil ni yn cefnogi galwadau ymgyrchwyr sy'n credu bod modd sicrhau bod modd adolygu'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf er mwyn sicrhau cefnogaeth ddigonol i'r rhai sydd mwyaf ei hangen, ac mae rhai o'r awgrymiadau i wella'r cynllun wedi eu hamlinellu yng ngwelliannau'r Ceidwadwyr.
Byddwn i yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod hwn yn gynllun sydd ar gael drwy'r flwyddyn, yn hytrach na bod yn gynllun tymhorol, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn mynd heb wres neu bŵer yn ystod y misoedd oeraf. Ac fel y soniais, er ei bod yn haf, mae yna bobl nawr sy'n methu fforddio cynnau'r ffwrn neu dwymo'r bath. Dylem ehangu nifer y bobl sy'n gymwys ar gyfer cymorth, fel bod pawb sydd angen cefnogaeth o dan y cynllun yn medru ei chael, fel y rhai ar gredydau pensiwn, er enghraifft. Mae angen hefyd adeiladu mecanwaith i mewn i'r cynllun i sicrhau ei fod yn cyrraedd aelwydydd incwm isel sy'n talu am eu tanwydd fel rhan o'u taliadau rhent, er enghraifft. Gallai elfen o ddisgresiwn gael ei gyflwyno i'r cynllun, fel bod pobl a fyddai efallai ar ymyl cymhwysedd ac yn colli mas, neu yn cael eu hunain mewn sefyllfa newydd neu argyfyngus sy'n eu gwthio i dlodi, yn gallu gwneud cais am gymorth.
Mae'r Gweinidog wedi awgrymu ei bod yn gytûn bod angen sicrhau bod taliadau yn cael eu gwneud cyn i'r cap Ofgem gynyddu ym mis Hydref, ac mae angen felly adolygiad a gwerthusiad o'r cynllun blaenorol i sicrhau bod gwelliannau yn cael eu gwneud cyn hynny er mwyn gwneud yn hollol siŵr bod taliadau yn cyrraedd cymaint o aelwydydd cymwys â phosib. Mae angen camau i wella a chysoni sut mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu ag aelwydydd anghenus ac yn prosesu'r hawliadau, ochr yn ochr ag ymgyrch codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo gan y Llywodraeth. Tra bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau cadarnhaol i helpu pobl drwy'r argyfwng costau byw hwn, yn enwedig o gymharu ag ymddygiad gwarthus a didostur Llywodraeth San Steffan, rhaid sicrhau bod y camau hynny yn rhai cwbl gadarn, er mwyn arbed dioddefaint nad oes yr un ohonom ni wedi gweld ei debyg. Dyna nod ein cynnig. Rwy'n annog Aelodau i'w gefnogi.