Mercher, 6 Gorffennaf 2022
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt...
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ac i'w ofyn gan Peredur...
1. Sut y mae'r Llywodraeth yn hyrwyddo cyflog teg i weithwyr yn y trydydd sector? OQ58319
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'i chyd-Weinidogion ynghylch mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil mewn gweithleoedd yn y sector cyhoeddus? OQ58304
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Heddlu Gogledd Cymru ynghylch effaith cyfrifoldebau gwasanaeth iechyd ar eu llwyth gwaith? OQ58300
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid undebau llafur i ddiogelu buddiannau gweithwyr yn y sector cyhoeddus? OQ58314
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau tlodi tanwydd yn Ynys Môn? OQ58308
6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o allu plant a phobl ifanc mewn sefydliadau gofal preswyl sy'n cael eu rhedeg yn annibynnol i gael mynediad at eiriolwr annibynnol? OQ58301
7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith Bil Hawliau arfaethedig Llywodraeth y DU ar y fframwaith deddfwriaethol a pholisi yng Nghymru? OQ58292
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gerrig milltir cenedlaethol ar gyfer cyflawni nodau llesiant Llywodraeth Cymru? OQ58297
Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sarah Murphy.
1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau gweithredu diwydiannol gan fargyfreithwyr o ran mynediad at gyfiawnder yng Nghymru? OQ58290
2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth yr Alban ynghylch y goblygiadau i Gymru o'r penderfyniad i geisio dyfarniad Goruchaf Lys ar gyfreithlondeb cynnal...
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
3. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o oblygiadau cyfansoddiadol cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiddymu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017? OQ58310
4. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o oblygiadau datganiad Llywodraeth yr Alban ei bod am gynnal refferendwm annibyniaeth ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru? OQ58311
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y newidiadau arfaethedig i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 ar ddeddfwriaeth Cymru a'r setliad datganoli? OQ58291
6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith gronnol y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd, a'r Bil Hawliau ar fynediad at gyfiawnder yng...
7. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau cyfreithiol ymdrechion diweddar Llywodraeth y DU i ddiddymu deddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd? OQ58315
8. Pa ymgysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael â Llywodraeth y DU ar ddatblygu'r Bil Hawliau? OQ58294
9. Pa gymorth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i sector cyfreithiol Cymru yn dilyn newidiadau arfaethedig i arferion gwaith gan Lywodraeth y DU? OQ58299
Eitem 3 sydd nesaf, cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd yr holl gwestiynau y prynhawn yma yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1, Huw Irranca-Davies.
1. Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i gynyddu cyfran yr ystafelloedd pwyllgora a chyfarfod a all ddarparu ar gyfer cyfarfodydd hybrid ar draws ystâd y Senedd? OQ58295
2. Pa drafodaethau y mae'r Comisiwn wedi'u cael gyda'r Bwrdd Taliadau ynghylch newidiadau i gynllun pensiwn staff cymorth yr Aelodau? OQ58326
Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol, a bydd y cwestiwn cyntaf yn cael ei ateb gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Galwaf ar Jane Dodds.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n derbyn gofal sydd wedi'u lleoli mewn llety heb ei reoleiddio a llety dros dro? TQ651
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynigion newydd ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy? TQ654
Symudwn ymlaen i'r datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, Vikki Howells.
Eitem 6 y prynhawn yma yw'r cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022, a galwaf ar Tom Giffard i wneud y cynnig.
Eitem 7, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: gwaharddiad ar gymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent. Galwaf ar Luke Fletcher i wneud y cynnig.
Eitem 8 heddiw yw datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Vikki Howells.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio ac mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022. Dwi'n galw am bleidlais...
Fe fyddwn ni nawr yn symud ymlaen i'r ddadl fer, pan fydd yr Aelodau wedi gadael y Siambr.
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar y camau y gallai eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau gwledig?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu hawliau pobl hŷn?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia