9. Dadl Plaid Cymru: Cynllun cymorth tanwydd y gaeaf

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:18, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw. Nid oeddem yn siŵr faint fyddai'n gymwys—rydym yn ddibynnol iawn ar ddata a gwybodaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau am hynny. Fel y cofiwch, fe wnaethom greu hyn i ddilyn y toriad i'r £20 o gredyd cynhwysol, felly roeddem yn edrych, ar y dechrau un, ar deuluoedd sy'n gweithio, a dyna pam y mae angen inni ei ehangu y tu hwnt i hynny yn awr. Ond roedd y niferoedd yn cyrraedd 200,000. Byddaf yn sicr yn rhoi arwydd cliriach o hynny pan gawn yr ymateb terfynol gan ein hawdurdodau lleol, a gyflawnodd y cynllun hwn i ni. Cyfarfûm â'r cyngor partneriaeth, gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y bore yma, nid yn unig i ddiolch iddynt am ddarparu cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, ond i'w hysbysu y byddem yn awr yn disgwyl iddynt gyflawni hyn. Ac wrth gwrs, mae'r niferoedd sy'n manteisio arno, y cyhoeddusrwydd, yr ymwybyddiaeth ohono, yn hanfodol bwysig, fel y dywedwyd. 

Nawr, rydym wedi bod drwy'r cyd-destun—ers i Ofgem gynyddu'r cap ar brisiau ynni 54 y cant ym mis Ebrill, mae ein dadansoddiad wedi dangos bod nifer yr aelwydydd sy'n byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru wedi codi o 12 y cant yn 2018 i tua 45 y cant. A bydd y cynnydd arfaethedig mewn prisiau ynni ym mis Hydref, wrth gwrs, yn gwaethygu ymhellach y problemau ariannol y mae aelwydydd yn eu hwynebu. Cynhaliwyd uwchgynhadledd costau byw gennym ym mis Chwefror, ac rwy'n cynnal digwyddiad dilynol ddydd Llun, ond hefyd yn cyfarfod â'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, fforwm hil Cymru, yn ogystal â'r grŵp trawsbleidiol, wrth gwrs, dan gadeiryddiaeth Mark Isherwood, er mwyn deall effaith yr argyfwng ar lawr gwlad a datblygu atebion gwybodus i'n harwain, oherwydd mae hyn yn ymwneud ag adeiladu cadernid aelwydydd bregus ar yr adeg hon. 

Felly, mae'r adborth wedi helpu i lywio datblygiad y cynllun cymorth tanwydd pellach hwn i Gymru, sut y gall gyrraedd mwy o aelwydydd fel y gall mwy o bobl gael y £200, sy'n cynnig cymorth mor hanfodol, ond gan ehangu ei gymhwysedd. Ond dim ond un mewn cyfres o fentrau yw'r cynllun cymorth tanwydd i gefnogi pobl sy'n ei chael yn anodd talu cost gynyddol eu biliau ynni. Ac rwy'n falch iawn fod cyfeiriad wedi'i wneud at y cyhoeddiad a wneuthum am ein partneriaeth yn awr gyda'r Sefydliad Banc Tanwydd—bron i £4 miliwn o gyllid, ar 10 Mehefin y gwnaethom gyhoeddi hynny, ar gyfer y cynllun talebau tanwydd a chynllun y gronfa wres yng Nghymru. Felly, mae hynny hefyd yn mynd i ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i aelwydydd cymwys sy'n rhagdalu am eu tanwydd—y rhai sydd â mesuryddion rhagdalu, y rhai nad ydynt wedi'u cysylltu â'r prif rwydwaith nwy sy'n ei chael yn anodd talu ymlaen llaw am eu tanwydd.

Af ar drywydd y pwyntiau a'r cwestiynau hynny sydd wedi'u codi heddiw ynglŷn â chymhwysedd a'r effeithiau o ran landlordiaid a'r taliadau sefydlog, sydd wedi codi fwyaf yng ngogledd Cymru. A chyhoeddais hyn ym manc bwyd Wrecsam, oherwydd gwn sut roedd y cynnydd yn y taliadau sefydlog yn taro aelwydydd mewn ardaloedd gwledig ac yn y gogledd yn enwedig. Ond hefyd, mae'r arian hwnnw'n mynd i ariannu'r gwaith o ehangu'r rhwydwaith partner i gefnogi cyngor cofleidiol ar ynni ac arbedion. Mae hyn, unwaith eto, ac rydym wedi trafod hyn mewn ymateb i gwestiynau yn fy nghwestiynau llafar yn gynharach, yn ymwneud â'i gwneud hi'n bosibl lledaenu'r neges, rhoi'r gefnogaeth, pob cyswllt sydd wedi'i wneud, ond hefyd yr arian ychwanegol i sicrhau y gall ein cronfa cymorth dewisol ddarparu'r cymorth drwy gydol yr haf a'r gaeaf. Rydym wedi cytuno i wneud hynny hyd at ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf i bobl nad ydynt yn gallu fforddio, er enghraifft, eu cyflenwad nesaf o olew neu nwy petrolewm hylifol oherwydd caledi ariannol eithafol. Felly, mae'r mentrau hyn yn cyflawni ochr yn ochr â'n taliad costau byw o £150, ein cronfa ddewisol o £25 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol, ein rhaglen Cartrefi Clyd a 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'.

Nawr, yn olaf, Lywydd, fy rheswm dros ddiwygio'r cynnig oedd i sicrhau bod y ddadl yn cydnabod mai yn nwylo Llywodraeth y DU y mae'r prif ddulliau o fynd i'r afael â'r argyfwng tanwydd, a diolch i Sioned Williams am gydnabod hyn hefyd. Amharodrwydd Llywodraeth y DU i weithredu'n gynnar ar hyn a wnaeth ddwysáu effaith y cynnydd ym mhrisiau tanwydd. Hyd yn oed yn awr, er gwaethaf y dystiolaeth o'r effaith y mae'n ei chael, mae bylchau o hyd yn y cymorth y maent wedi'i gynnig. Felly, rwyf eisoes wedi ymateb, yn gynharach heddiw, i ddweud ein bod yn galw am ddileu'r holl gostau polisi amgylcheddol cymdeithasol o filiau ynni aelwydydd, er mwyn i'r costau hynny gael eu talu o drethiant cyffredinol a chyflwyno cap pris is ar gyfer aelwydydd incwm is er mwyn sicrhau y gallant dalu eu biliau ynni. Ond mae angen i ni hefyd gynyddu cyfraddau lwfans tai lleol, er mwyn cynyddu'r cyllid ar gyfer taliadau disgresiwn at gostau tai er mwyn atal nifer cryn dipyn yn fwy o bobl rhag dod yn ddigartref o ganlyniad i ôl-ddyledion rhent. Felly, gobeithio y bydd yr Aelodau'n ystyried cefnogi'r gwelliant hwn—nid yn unig ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, ond mae'n ddyletswydd hefyd ar Lywodraeth y DU i wneud cymaint mwy gyda'u pwerau a'u cyfrifoldebau, ac nid ydynt yn gwneud hynny. Ond bydd ein cynllun yn cael ei gyhoeddi ac mae wedi ymateb i lawer o'r materion sydd wedi'u codi heddiw. Diolch yn fawr.