Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Wel, diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, dwi am ddechrau drwy wneud un peth yn glir: yn wahanol iawn i fywyd rhithiol James Evans, mae gadael y farchnad sengl wedi bod yn gwbl drychinebus i Gymru ac i holl wledydd y Deyrnas Gyfunol. Mae'r holl addewidion gan y Brexiteers wedi bod yn ddim byd mwy na thwyll, ac mae effaith hynny ar ein cymunedau wedi bod yn ofnadwy o andwyol.
Gadewch inni ystyried beth yw realiti gadael y farchnad sengl: mynydd o fiwrocratiaeth i'n busnesau er mwyn allforio nwyddau, cost gynyddol mewnforion, problemau gyda thaliadau treth ar werth, gwerth y bunt yn cael ei ddibrisio, ein ffermwyr yn wynebu gwiriadau ar y ffin ag Ewrop—border checks—wrth iddyn nhw werthu eu cynnyrch, tra bod bwyd sy’n dod mewn i’r gwledydd hyn yn dod mewn yn gwbl ddi-lyffethair.
A nawr ein bod ni wedi gadael y polisi amaeth cyffredinol, mae'r Torïaid yn San Steffan wedi torri £137 miliwn eleni a £106 miliwn y flwyddyn nesaf oddi ar gyllideb amaeth yng Nghymru. Felly, dyna yw benefit mawr Brexit i'n ffermwyr ni. Ac eto roedd Brexit i fod i olygu cyfleoedd newydd a chyffrous i’r sectorau amaeth a physgota. Yn anffodus, y gwrthwyneb sy'n wir. Roedd y cyfan yn rhethreg a seiliwyd ar anonestrwydd.