Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf wedi clywed gan fusnesau bach, gan gynnwys Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, sy'n ei chael yn anodd iawn gyda'r fiwrocratiaeth, y baich ariannol ychwanegol a achosir gan gytundeb y Ceidwadwyr. Yn y pen draw, cyfrifoldeb y Llywodraeth yw sicrhau bod ei dinasyddion yn cael gofal da, ac ni allwn fynd i'r afael yn iawn â'r argyfwng costau byw heb ailymuno â'r farchnad sengl. Ac fel y clywsoch, mae angen inni ystyried yr effaith ar y sector amaethyddol. Mae ffermwyr wedi profi cryn dipyn o ansicrwydd ers—