10. Dadl Plaid Cymru: Ailymuno â'r farchnad sengl

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 5:55, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Rydym wedi clywed rhesymau clir a ffeithiol y prynhawn yma, gan Cefin Campbell, gan Luke Fletcher, gan Jane Dodds, pam y dylem ymuno â'r farchnad sengl. Yn wir, credaf inni glywed rhesymau clir a ffeithiol gan Vaughan Gething, y Gweinidog, ynglŷn â pham y dylem ymuno. Nawr, gwyddom fod Boris Johnson wedi diystyru effaith Brexit ar yr economi mewn iaith anseneddol iawn cyn iddo ddod yn Brif Weinidog. Wel, ni chlywsom iaith o'r fath o'r meinciau gyferbyn heddiw, ond yn sicr fe glywsom James Evans a Tom Giffard yn rhefru fel Boris, oni wnaethom? A James a Tom, rwy'n credu bod angen i chi roi'r gorau i efelychu Boris Johnson oherwydd mae ei ddyddiau wedi'u rhifo.

I ateb—[Torri ar draws.]