Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Diolch, Lywydd. Can biliwn o bunnoedd y flwyddyn—dyna faint y mae'r Financial Times yn amcangyfrif bod peidio â bod yn rhan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau wedi ei gostio i'r DU. Ar ben hynny, mae £40 biliwn yn llai o refeniw i'r Trysorlys y flwyddyn ac mae'r DU ar ei hôl hi o'i chymharu â gweddill y G7 o ran adfer o'r pandemig. Dyna lle rydym ni arni. Mae peidio â bod yn rhan o'r farchnad sengl yn sicr yn ein gwneud ni yma yng Nghymru yn waeth ein byd. Mae wedi crebachu ein heconomi a chyfyngu ar dwf economaidd, yn ogystal â gwaethygu'r argyfwng costau byw presennol. Bydd peidio â bod yn rhan o'r farchnad sengl yn gwneud adfer o'r pandemig a chael cyflogau i godi'n gynaliadwy yn ystod yr argyfwng costau byw yn llawer iawn anoddach.
Canfu adroddiad gan y Resolution Foundation ac Ysgol Economeg Llundain fod disgwyl i gynhyrchiant llafur ostwng 1.3 y cant erbyn 2030, am nad yw economi Prydain ar ôl Brexit mor agored ag y bu. Mae hyn yn cyfateb i golli chwarter yr enillion effeithlonrwydd a wnaed dros y degawd diwethaf. Mae wedi niweidio cystadleurwydd allforion y DU yn aruthrol, a gwyddom fod hynny'n effeithio'n arbennig ar ein cymunedau ffermio yma yng Nghymru, gyda disgwyl i allforion y DU i'r UE fod 38 y cant yn is erbyn 2030 nag y byddent pe baem o fewn y farchnad sengl, gyda gostyngiad pellach o 16 y cant o ganlyniad i roi'r gorau i integreiddio pellach â'r UE dros y cyfnod hwnnw.
Addawodd Boris Johnson i ni ym mis Hydref y byddai Brexit yn helpu i greu economi â chyflogau uchel a chynhyrchiant uchel, ond yn ddiweddar mae wedi annog gweithwyr i beidio â gofyn am godiadau cyflog uwch i atal trogylch rhwng cyflogau a phrisiau rhag gyrru chwyddiant yn uwch. Yn ystod y refferendwm, addawodd hefyd na fyddai gadael yr UE yn golygu gadael y farchnad sengl. Mae hyn ond yn datgelu rhagor o'i gelwyddau niferus. Ar ben hynny, mae Cyngres yr Undebau Llafur wedi rhybuddio bod cytundebau masnach ôl-Brexit yn methu gwarantu hawliau gweithwyr ac amddiffyniadau cyflogeion.
Gwyddom fod yr argyfwng costau byw a'r pandemig wedi taro ein cymunedau mwyaf bregus a thlotaf yma yng Nghymru galetaf, ac mae aros y tu allan i'r farchnad sengl yn gwneud hyn yn waeth. Amcangyfrifir bod costau mewnforio uwch yn costio bron i £500 y flwyddyn i weithwyr Prydain, sy'n ffigur hynod o serth i'r teuluoedd tlawd sydd eisoes yn cael trafferth.
Adroddodd The Guardian—ac nid wyf yn aml yn dyfynnu The Guardian—yn ddiweddar am y ffordd y mae Brexit yn effeithio ar blant ysgol, gyda nifer cynyddol o ddisgyblion bellach yn methu talu am brydau ysgol yn dilyn cynnydd yng nghostau bwyd a phrinder bwyd. Mae 90 y cant o gwmnïau sy'n darparu prydau ysgol yng Nghymru a Lloegr wedi dweud eu bod yn wynebu prinder bwyd o ganlyniad i broblemau yn y gadwyn gyflenwi, tra bo costau cyfartalog wedi cynyddu 20 y cant ers mis Ebrill 2020.
Mae effaith aros y tu allan i'r farchnad sengl yn wirioneddol amlwg ac yn effeithio ar bobl yn eu bywydau bob dydd, a dyna pam ein bod yn galw am gefnogaeth i'r cynnig hwn heddiw. Nawr, nodais ymateb y Prif Weinidog i Adam Price ddoe yng nghwestiynau'r Prif Weinidog—'meddyliau hudol'. Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf yn rhannu barn y Prif Weinidog. Yn sicr, nid yw'n feddyliau hudol i Wlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy—tair gwlad y tu allan i'r UE sydd oll yn aelodau o'r farchnad sengl. Nid yw ychwaith yn feddyliau hudol i Ogledd Iwerddon, sydd ar hyn o bryd yn rhan o'r DU nad yw'n rhan o'r UE ond eto yn y farchnad sengl, gyda chefnogaeth y rhan fwyaf o'r pleidiau yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon.
Pe gwrandewid ar y feirniadaeth ynghylch 'meddyliau hudol' bob tro, byddai llawer o bethau yr ydym yn eu coleddu na fyddent yn bodoli heddiw. Ond dyna a wnawn fel Aelodau etholedig: rydym yn nodi problem, rydym yn meddwl am ateb ac rydym yn adeiladu achos. Dyna yw nod Plaid Cymru heddiw, a dyna y byddwn yn ei wneud.