10. Dadl Plaid Cymru: Ailymuno â'r farchnad sengl

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 5:56, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Na, rydych wedi cael digon o amser. I ateb James a Rhianon: mae hawl gan bobl i newid eu meddyliau, James a Rhianon. Dyna pam ein bod yn cael etholiadau rheolaidd, a bydd y Ceidwadwyr yn gweld, yn yr etholiad cyffredinol nesaf, fod llawer o bobl, yn sicr, wedi newid eu meddyliau. Ddydd Llun—[Torri ar draws.] Rwy'n fodlon derbyn ymyriad gennych chi, Hefin, ie.