Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Eitem 7 yw'r bleidlais nesaf, a hon yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, sef y gwaharddiad ar gymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Luke Fletcher. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, 12 yn ymatal, saith yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.