Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r ddadl hon mor bwysig, a diolch i John Griffiths am ei chyflwyno ac am y cyfraniadau eraill rŷm ni wedi'u clywed. Mae herio tlodi ac anghydraddoldeb yn rhan ganolog o'n holl waith ni fel Llywodraeth a'm gwaith i fel Gweinidog, ac mae addysg, fel rŷm ni wedi clywed, yn allweddol i gyflawni'r nod hwnnw. Rŷm ni am weld safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb, o ble bynnag maen nhw'n dod neu beth bynnag yw eu cefndir nhw.
Rŷm ni wedi cymryd camau sylweddol ymlaen yn barod, gan arwain at ein rhaglen ddiwygio bresennol, ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn addysg a gofal plentyndod cynnar, fel y clywsom ni gan John Griffiths, y Cwricwlwm i Gymru newydd, ein Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, cymorth i addysg ôl-16 a dysgu gydol oes—ac rŷm ni wedi clywed pŵer hynny heddiw yn glir—ein polisi prydau ysgol am ddim, ein cyllid ar gyfer costau'r diwrnod ysgol, mentrau yn ymwneud â'r gwasanaeth cerddoriaeth, a rhoi llyfrau yn anrheg. Mae pob un o'r rhain yn canolbwyntio ar oresgyn rhwystrau rhag llwyddiant a chydraddoldeb.
Er ein bod ni wedi symud ymlaen, rwy'n credu bod hynny wedi digwydd yn rhy araf. Edrychwch ar y grŵp oedran 14 i 16 oed, er enghraifft. Rŷm ni'n gwybod o'n data ein hunain na fu digon o gynnydd dros y degawd diwethaf wrth gau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng dysgwyr o gefndir incwm isel a rhai eraill. Ac mae'r pandemig COVID-19 wedi gwneud pethau'n waeth. Yn ôl ymchwil yn ein prifysgolion ni, mae lles a chyrhaeddiad dysgwyr mewn tlodi wedi cwympo hyd yn oed yn bellach y tu ôl, fel roedd John Griffiths yn dweud. Allwn ni ddim derbyn sefyllfa lle mae llwyddiant personol yn y dyfodol yn dibynnu ar gefndir, ac rwy'n benderfynol o gymryd camau radical a chyson i wneud yn siŵr o hynny.
Mae angen dull gweithredu system gyfan sy'n edrych ar y meysydd sy'n mynd i wneud gwahaniaeth i bobl, a dylai hyn fod yn seiliedig ar agwedd at addysg sy'n adlewyrchu ac yn tynnu ar y gymuned, ac sy'n gyson gyda datblygiadau polisi mewn meysydd fel iechyd a'r economi. Yn fy natganiad ar 22 Mawrth, mi wnes i ddechrau nodi rhywfaint o'n gwaith ni i gyflawni hyn, ac fe wnes i amlinellu camau pellach i Sefydliad Bevan ar 16 Mehefin. Cyn hir, byddaf yn cyhoeddi cynllun gweithredu sy'n dwyn y cyhoeddiadau yma ynghyd, ac sy'n nodi'r cyfeiriad ar gyfer cydweithio gyda'n partneriaid yn y dyfodol.
Mae cymwysterau yn chwarae rhan hanfodol, ond mae angen hefyd inni ystyried cyflogadwyedd, lles a chyflawni nodau personol. Rwy'n comisiynu adolygiad yn y maes hwn, ac rwyf wedi gofyn i'm cyfaill Hefin David, yr Aelod o'r Senedd dros Gaerffili, i edrych ar y ffordd mae darparwyr addysg yn cynnig profiadau sy'n ymwneud â byd gwaith, a gwneud argymhellion ynghylch ffocws, cysondeb ac effeithlonrwydd y profiadau hyn.
Bydd rhaid defnyddio'r grant datblygu disgyblion mewn ffordd effeithiol. Rŷm ni eisoes yn dechrau ar waith gyda'n partneriaid yn hyn o beth. Mae'r grant datblygu disgyblion mynediad, PDG access, wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i sawl teulu difreintiedig ledled Cymru, gan helpu i leddfu'r pryderon ynghylch prynu gwisg ysgol neu gyfarpar, a galluogi plant i fynd i'r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar yr un lefel â'u cyfoedion. Y llynedd, fe gafodd y grant ei ymestyn i blant a phobl ifanc ym mhob blwyddyn ysgol orfodol, gan olygu bod modd i hyd yn oed fwy o deuluoedd fanteisio ar y cymorth hwn bellach.
Gan gydnabod y pwysau ar deuluoedd, Dirprwy Lywydd, ym mis Mawrth fe wnes i gyhoeddi taliad untro ychwanegol o £100 i bob plentyn neu berson ifanc a oedd yn gymwys ar gyfer y grant. Mae hyn yn golygu bod y cyllid ar gyfer y grant hwnnw wedi codi i dros £23 miliwn ar gyfer y flwyddyn ysgol sydd i ddod.