Part of the debate – Senedd Cymru am 6:22 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Diolch i John Griffiths am ildio cyfran o'i amser. Mae hon yn ddadl bwysig i'w chael, a chytunaf yn llwyr fod gwybodaeth yn darparu llwybr allan o dlodi. Mae'r Aelodau'n gwybod hyn amdanaf eisoes, ond roeddwn yn cael prydau ysgol am ddim a'r lwfans cynhaliaeth addysg pan oeddwn yn tyfu i fyny a chyn imi ddod i fyd gwleidyddiaeth, roeddwn yn gweithio mewn bar. Nid wyf yn siŵr a yw John yn cofio—gobeithio ei fod—ond un o'r troeon cyntaf imi ei gyfarfod oedd pan oeddwn yn gwneud TGAU a chefais brofiad gwaith yn Llywodraeth Cymru, a John oedd y Gweinidog y cefais y profiad gwaith hwnnw gydag ef. Roedd hynny ar yr adeg y cyflwynwyd y tâl o 5c am fagiau plastig. Efallai fy mod yn creu ychydig bach o embaras i'r Aelodau o ran fy oedran. Ond credaf fod hynny'n hollbwysig—yn ogystal â'r prydau ysgol am ddim a'r lwfans cynhaliaeth addysg—i egluro pam fy mod yma heddiw. Mae'n rhywbeth rwy'n credu'n angerddol ynddo.
Rwyf am ganolbwyntio ar ddau bwynt yn gyflym iawn yma. Mae addysg yn llwybr allan o dlodi, ond nid yw pawb yn gallu teithio ar hyd y llwybr hwnnw'n llawn, gyda rhwystrau i addysg yn sgil cost y diwrnod ysgol. Mae prydau ysgol am ddim, wrth gwrs, yn gwneud llawer i fynd i'r afael â hynny, ac mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn ffordd arall. Rwyf wedi gwneud pwyntiau yn y gorffennol i'r Gweinidog ac i wahanol Aelodau eraill, ac yn parhau i wneud y pwynt, y dylai'r taliad gynyddu i £45. Mae'n £30 ar hyn o bryd, ac mae wedi bod yn £30 ers 2004; roedd yn £30 pan oeddwn i'n ei dderbyn. Felly, rwy'n credu ei bod yn hanfodol yn awr ein bod yn edrych ar sut y gallwn hwyluso cynnydd. Ac wrth gwrs, mae teithio i'r ysgol a chost teithio yn rhwystr arall. Mae gennym blant yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn cerdded am dros awr i gyrraedd yr ysgol. Ac wrth gwrs, gyda phrydau ysgol am ddim—unwaith eto, yn bwysig iawn—mae'n iawn, ond os na all y plant gyrraedd yr ysgol i gael y prydau ysgol am ddim, mae'n dal i greu rhwystr. Hyd nes y gallwn ddatrys cost y diwrnod ysgol, ni fydd y system yn caniatáu i blant dosbarth gweithiol, fel oedd John a minnau, ffynnu a chyrraedd eu potensial.
Ac yn olaf, yn gyflym iawn, Ddirprwy Lywydd—gwn fy mod yn profi eich amynedd—credaf fod angen inni hefyd gael ychydig o newid diwylliant mewn addysg. Yr hyn a olygaf wrth hynny yw bod angen inni symud oddi wrth yr obsesiwn â mynd i'r brifysgol. Dylai prentisiaethau fod yn gydradd â hynny. Rwy'n adnabod nifer o bobl a aeth ymlaen i wneud prentisiaethau sy'n hynod lwyddiannus yn awr, er nad oeddent o reidrwydd yn glyfar iawn yn academaidd, a byddent yn cyfaddef hynny eu hunain. Nid y Brifysgol yw'r unig lwybr allan o dlodi.