Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Wel, roedd yr eitem hon ar yr agenda heddiw ar gyfer y cyngor partneriaeth llywodraeth leol, dan gadeiryddiaeth fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans. Mae’n ymwneud â nod cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, sef bod llywodraeth leol yn gyflogwr enghreifftiol, gyda pholisïau adnoddau dynol a chyflogaeth gwrth-hiliol, gyda chyllid gwella’n cael ei ddefnyddio i annog arferion gorau o’r fath, gan gyfrannu at lywodraethu a pherfformiad da.