Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r heddlu, y comisiynwyr heddlu a throseddu, a chyda’r gwasanaeth iechyd, nid yn unig yng ngogledd Cymru, ond ledled Cymru gyfan. Rwy’n cael cyfarfodydd a thrafodaethau rheolaidd gyda’n partneriaid am ystod eang o faterion sy'n ymwneud â phlismona.