Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ac yn ymgorffori partneriaeth gymdeithasol mewn cyrff cyhoeddus drwy Fil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus a llesiant. Mae hyn yn adeiladu ar y trefniadau presennol, er enghraifft gyda'r GIG, llywodraeth leol a’r fforwm gwasanaethau ar draws y sector cyhoeddus, cyngor partneriaeth y gweithlu.