Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 1:48, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Gwyddom fod teuluoedd â phlant ymhlith yr aelwydydd tlotaf yn ein gwlad. Yn dilyn llwyddiant y cynllun bocsys babanod yn yr Alban, cafodd cynllun ei dreialu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ddarparu bwndeli babanod i 200 o deuluoedd er mwyn lleihau’r angen am wariant ar hanfodion ar gyfer babanod newydd-anedig. Roedd y cynllun peilot i'w weld yn llwyddiannus, yn ôl y gwerthusiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Felly, a gaf fi ofyn pa ddatblygiadau sydd wedi digwydd yn sgil cwblhau'r cynllun peilot hwn? O ystyried llwyddiant y cynllun peilot, pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi cynllun bwndeli babanod ar waith eto? Wrth gwrs, pe bai gennym fwy o bwerau dros les, gallem ddatblygu cynllun cymorth arian parod, y mae ymgyrchwyr gwrthdlodi yn galw amdano fel y ffordd orau o gefnogi teuluoedd â phlant, yn debyg i gynllun Best Start yn yr Alban. Gallem helpu rhieni yn ystod yr argyfwng costau byw a chynorthwyo i dynnu teuluoedd allan o dlodi. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr ymrwymiad a wnaed yn y cytundeb cydweithio i fwrw ymlaen â'r gwaith o ddatganoli lles?