Diogelu Buddiannau Gweithwyr yn y Sector Cyhoeddus

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:03, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch yn ddiffuant i’r Aelod am ei gyfraniad meddylgar ac ystyriol? Rwyf am ddechrau drwy ddweud, James, fy mod yn siŵr y byddai croeso mawr i chi ailymuno ag Unsain, ond rwy'n credu bod y meinciau nesaf atoch—[Torri ar draws.]—wedi cael cryn syndod o  glywed eich bod yn arfer bod yn gyn-aelod o undeb llafur. Ond mae undebau llafur yno i bawb, ac fel y dywedasom, dyma'r ffordd orau i gynrychioli ac amddiffyn eich hun yn y gweithle a chydweithio.

Gwn fod cyfres o gwestiynau ar yr un mater a godwyd gennych ar gyfer fy nghyd-Aelod, y Cwnsler Cyffredinol, i ddod ar ôl hyn, ac rwy’n siŵr y bydd y pwyntiau y byddwch yn eu hystyried yn rhai amserol iawn, ac rwy’n siŵr y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn hapus iawn i fwrw ymlaen â hynny, a diolch ichi am eich cyfraniadau.