Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Mae cerrig milltir cenedlaethol yn rhan bwysig o Llunio Dyfodol Cymru. Rydym yn cyflwyno'r cerrig milltir cenedlaethol mewn dau gam. Gosodwyd y cam cyntaf gerbron y Senedd ym mis Rhagfyr 2021 a chyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar gam 2 ym mis Mehefin. Bydd adroddiad 'Llesiant Cymru' yr hydref hwn yn cynnwys diweddariad cynnydd ar y cerrig milltir cenedlaethol.