Mynediad at Gyfiawnder yng Nghymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sarah Murphy Sarah Murphy Labour 2:19, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog—mae'n ddrwg gennyf, diolch, Gwnsler Cyffredinol. Cytunaf â'r hyn yr ydych wedi'i ddweud: mae bargyfreithwyr yng Nghymru yn dioddef yn sgil y ffaith bod Llywodraeth Geidwadol y DU yn tanariannu'r system gyfiawnder yng Nghymru. Nid yn unig y mae hyn yn effeithio ar fargyfreithwyr sy'n gweithio yn y diwydiant—mae'r diffyg buddsoddiad a chefnogaeth iddynt gan Lywodraeth y DU yn effeithio ar y system gyfiawnder gyfan ac mae hyn yn anochel yn effeithio ar y rhai sy'n chwilio am gyfiawnder yn ein cymunedau. Mae bargyfreithwyr Cymru a'n cenedl yn haeddu mwy na hyn. Gwnsler Cyffredinol, beth y mae hyn yn ei olygu mewn perthynas â denu pobl i mewn i'r proffesiwn a'r system gyfiawnder yng Nghymru o dan y Llywodraeth Dorïaidd?