Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Fel y dywedoch chi, mae'n ddewis, onid yw? Mae'n ddewis gan y Llywodraeth Dorïaidd, sydd bellach mewn anhrefn—ni all gytuno â hi ei hun hyd yn oed—i wrthod y pethau hynny yn Neddf undebau llafur Cymru yr ydym yn eu caniatáu ar hyn o bryd. Ac un o'r pethau hynny a ganiateir, wrth gwrs, yw'r amser cyfleuster y telir amdano, sy'n fanteisiol i'r bobl sy'n cael eu cynrychioli ac i'r cwmnïau sy'n cyflogi pobl. Mae'n aml iawn yn arwain at benderfyniadau cynnar iawn yn hytrach na dwysáu materion y mae pobl yn teimlo'u bod angen cynrychiolaeth yn eu cylch. Ac yn aml iawn, gellir datrys pethau syml iawn yn gynnar—pethau fel iechyd a diogelwch, trafodaethau cyflog. Mewn geiriau eraill, drwy siarad â'i gilydd a chynrychioli'r ddwy ochr.
Rydym wedi gweld, yn ôl yr hyn nad yw Llywodraeth y DU wedi'i wneud yn ystod y cylch diweddaraf o weithredu diwydiannol sydd wedi digwydd gyda gyrwyr trenau, eu bod wedi'i yrru i'r cyfeiriad arall. Nawr, nid ydym am weld y math hwnnw o ganlyniad yma yng Nghymru, a dyna pam ein bod wedi'i roi—