Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Gwnsler Cyffredinol, rydym wedi gweld y bygythiadau tuag at weithwyr y sector cyhoeddus gan y Llywodraeth Geidwadol amharchus, warthus, lwgr hon sydd bellach yn chwalu—Llywodraeth nad yw'n poeni am bobl sy'n gweithio, yn enwedig y bobl sy'n gweithio yng Nghymru. A phwy a ŵyr lle byddwn yn y dyfodol agos. Ond rwy'n siŵr y cytunwch â mi, Gwnsler Cyffredinol, ei bod yn bryd gweld newid yn San Steffan, ei bod yn bryd cael Llywodraeth Lafur yn y DU. Fodd bynnag, gyda'r holl anhrefn sy'n digwydd, sy'n parhau i ddigwydd, yn neuaddau San Steffan, ni ddylem golli golwg ar yr hyn y mae'r Torïaid yn ceisio'i gyflawni yma drwy danseilio datganoli. Gwnsler Cyffredinol, os ydynt yn bwrw ymlaen â'r camau y maent wedi'u bygwth yn ôl y sôn, a gaf fi ofyn am sicrwydd gennych ein bod yn barod i herio, fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd y camau cychwynnol sydd eu hangen i herio safbwynt Gweinidogion Torïaidd yn y llysoedd, yr ymosodiad ar y Senedd a'r ymosodiad ar bobl sy'n gweithio yng Nghymru? Diolch.