Cynllun Pensiwn Staff Cymorth yr Aelodau

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:16, 6 Gorffennaf 2022

Mae penderfyniadau ynghylch lefel y buddion sy’n daladwy i staff cymorth, gan gynnwys eu buddion pensiwn, yn fater i fwrdd taliadau annibynnol y Senedd. Nid yw’r Comisiwn wedi cael unrhyw drafodaethau â'r bwrdd taliadau ynghylch newidiadau i gynllun pensiwn staff cymorth. Mae Aelodau a'u staff wrth gwrs yn gallu codi materion yn uniongyrchol gyda'r bwrdd taliadau drwy amryw sianeli, a dwi ar ddeall bod sesiwn o'r fath yn cael ei gynnig ar gyfer Aelodau gan y bwrdd taliadau heddiw.