Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Yn ddiweddar, tynnwyd fy sylw at wahaniaeth yng nghyfraniadau pensiwn cyflogwyr rhwng staff cymorth yr Aelodau a staff Comisiwn y Senedd. Ar hyn o bryd, gall staff cymorth yr Aelodau ddisgwyl cyfraniad pensiwn cyflogwr o 10 y cant, tra bod y swm cyfatebol ar gyfer staff y Comisiwn yn 26.6 y cant. Roeddwn yn meddwl tybed a wnaiff y Comisiwn edrych eto ar hyn, neu annog y bwrdd taliadau yn wir i edrych eto ar hyn, ac ailystyried. Nid wyf yn credu ei bod yn deg pan fydd gweithwyr yn yr un adeilad â'i gilydd yn cael bron i hanner y cyfraniadau pensiwn cyflogwr y mae eu cydweithwyr yn y Comisiwn yn ei gael.