Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Diolch. A chredaf ichi groesawu'n fras yr amlinelliad o'r cynllun ffermio cynaliadwy a gyhoeddwyd gennym heddiw, ac rwy'n sicr wedi fy nghalonogi'n fawr gan ymateb llawer o'n rhanddeiliaid, ein hundebau ffermio ac unigolion. Ac fel y dywedwch, credaf ein bod yn sicr wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd mewn pedair blynedd, os edrychwch yn ôl at yr ymgynghoriad cyntaf, yn ôl yn 2018, ar 'Brexit a’n tir’. Ac mae hynny oherwydd y ddau ymgynghoriad a gawsom, y Papur Gwyn a gawsom, a cham cyntaf y gwaith cydgynllunio. Ac roeddwn yn awyddus iawn i gyhoeddi'r cynllun amlinellol hwn cyn sioeau'r haf—roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn ei gyhoeddi, fel y gallwn gael y trafodaethau pellach hynny, a hefyd i annog ffermwyr a rhanddeiliaid i ymrwymo i ail gam y gwaith cydgynllunio. Cawsom 2,000 o ffermwyr yn ein helpu ar y cam cyntaf y llynedd; hoffwn guro hynny. Rwyf wedi gosod y targed hwnnw, felly rwy'n awyddus iawn i bawb ymuno yn y sgwrs honno. Ac wrth gwrs, mae gennyf ddiddordeb mawr yn eich safbwyntiau chi ar y cynllun.
Fe wnaethoch ganolbwyntio ar un neu ddau o bwyntiau. Credaf mai'r her fwyaf i ddiogeledd bwyd yw'r argyfyngau hinsawdd a natur. A dyna pam fod gennym yr un agenda hon, os mynnwch—ni allwch ddewis un peth; maent yn amcanion integredig a chyflenwol iawn, yn fy marn i, sy'n mynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Ac yn amlwg, awn ymhellach pan fyddwn yn cyhoeddi’r Bil amaethyddol yma yn y Senedd yn yr hydref. Y prif beth yw bod y cynllun wedi’i gynllunio i gadw ffermwyr ar ein tir, ac rwy’n llwyr gydnabod yr hyn a ddywedwch am amcanion a chanlyniadau cymdeithasol a diwylliannol ar gyfer ein ffermwyr.
Ar goed, mae gennym darged heriol iawn i greu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030 i’n helpu i liniaru newid hinsawdd. Ac fe fyddwch yn ymwybodol o argymhellion Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU mewn perthynas â hynny. Ac yn amlwg, mae gan ffermwyr ran bwysig i’w chwarae yn ein helpu i gyflawni'r targed hwnnw. Rydych yn llygad eich lle, bydd gan lawer o ffermwyr 10 y cant o’u tir wedi'i orchuddio gan goed eisoes. Mewn fferm yr ymwelais â hi ddydd Llun i lansio’r cynllun, nid oes ganddo 10 y cant, ac roedd ganddo gwestiynau heriol iawn ynglŷn â sut y gallai gyrraedd 10 y cant. Bydd gan eraill 10 y cant, a gorchudd cynefin o 10 y cant hefyd. Ac mae hynny'n rhan o'r sgwrs, gwrando ar bryderon ffermwyr, ond hefyd sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y targedau hynny'n cael eu cyrraedd.
Gwn y bydd pobl yn siomedig nad yw'r lefelau ariannol yno. Fodd bynnag, rwy’n aros i weld y dadansoddiad economaidd. Ni allwn wneud unrhyw beth tan y cawn y dadansoddiad a'r gwaith modelu hwnnw, a chredaf fod hynny wedi'i dderbyn, mai dyna fydd y rhan nesaf cyn yr ymgynghoriad terfynol y flwyddyn nesaf. Felly, dim ond cam arall ar y ffordd yw hwn. Mae'n debyg ein bod ar y pedwerydd cam mawr ar y daith honno ar hyn o bryd.