Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Mae hynny'n gwbl gywir, a dyna y mae'n rhaid inni ei gael yma. Dyna pam y bydd eithriadau Llywodraeth Cymru yn allweddol iawn, ac rwyf eisiau clywed mwy gan y Gweinidog am hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi dewis bwrw ymlaen â'u cynlluniau treth er eu bod wedi cael tystiolaeth am yr effaith niweidiol ar y sector. Mae'r sefydliadau a oedd gyda ni heddiw wedi arolygu mwy na 1,500 o fusnesau hunanddarpar ledled Cymru, ac mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi dewis anwybyddu'r rheini. Sylwaf fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar—[Torri ar draws.] Rwy'n fodlon derbyn ymyriad, iawn.