Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Prynhawn da, a diolch, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i wneud y datganiad hwn heddiw. Mae’r pwyllgor heddiw wedi gosod gweithdrefn ddiwygiedig ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd, ac adroddiad cysylltiedig. Daw’r weithdrefn i rym ar 18 Gorffennaf 2022.
Fel gwleidyddion etholedig, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn gosod y safonau ymddygiad uchaf, ac fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, nid yw hynny byth yn bell o fy meddwl. Mae’r weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o’r Senedd yn rheoleiddio’r broses ar gyfer gwneud, ymchwilio a phenderfynu ar gwynion yn erbyn Aelodau, ac mae’n offeryn allweddol wrth nodi disgwyliadau ar gyfer y ffordd y dylai Aelodau ymddwyn. Rwy’n falch, felly, o allu gwneud y datganiad hwn heddiw, gan amlinellu sut y mae’r pwyllgor wedi diweddaru a gwella’r weithdrefn i wneud iddi weithio’n fwy effeithiol i bawb.
Yn ystod y pumed Senedd, cynhaliwyd adolygiad cynhwysfawr o’r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Senedd, a chymeradwywyd cod newydd i ddod i rym o ddechrau’r chweched Senedd. I ategu hyn, cytunodd y pwyllgor i ystyried y weithdrefn bresennol, ac i ystyried a oedd yn dal i fod yn addas i'r diben, fel ein gwaith cyntaf o sylwedd yn y chweched Senedd.
Cyhoeddodd y pwyllgor weithdrefn ddrafft i ymgynghori arni rhwng 19 Ionawr a 21 Chwefror 2022, a chafodd 11 o ymatebion. Mynychodd Comisiynydd Safonau y Senedd, Douglas Bain, sesiwn dystiolaeth lafar a gallodd roi cyngor technegol sylweddol, gan dynnu ar ei brofiad o Ogledd Iwerddon yn ogystal â Chymru. Hoffwn achub ar y cyfle hwn heddiw i ddiolch iddo ar ran y pwyllgor am ei gymorth.
Wrth adolygu’r weithdrefn yn sylweddol am y tro cyntaf ers ei chyflwyno, mae’r pwyllgor wedi ymdrechu i’w gwneud yn gliriach ac yn fwy hygyrch i’r cyhoedd. Rydym wedi cynhyrchu canllawiau esboniadol mewn iaith hawdd ei deall a hygyrch i gyd-fynd â'r weithdrefn. Mae hyn ar ffurf dogfen camau allweddol a siart lif, sy'n galluogi aelodau o'r cyhoedd i gael cipolwg ar sut y mae'r weithdrefn yn gweithio. Mae'r pwyllgor hefyd wedi cynhyrchu canllawiau mwy technegol ar weithrediad y weithdrefn i wella dealltwriaeth. Bydd hon yn ddogfen fyw y gellir ei diweddaru pryd bynnag y bydd cwestiynau neu faterion newydd yn codi. Bydd y broses ei hun hefyd yn fwy tryloyw i'r rhai sy'n ei dilyn, gan y bydd y comisiynydd a’r pwyllgor yn cysylltu â’r achwynydd a’r Aelod y cwynwyd amdanynt ar gerrig milltir y cytunwyd arnynt o’r newydd, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt.
Er mwyn sicrhau bod digwyddiadau yn dal i fod yn ffres yn y meddwl a thystiolaeth ar gael yn rhwydd, mae'r pwyllgor wedi pennu amserlen o chwe mis ar gyfer gallu derbyn cwynion. Fodd bynnag, hoffwn roi sicrwydd y bydd y comisiynydd yn ystyried cwynion ynglŷn â digwyddiadau y tu hwnt i’r amserlen hon lle mae achos da dros oedi. Mae hyn yn sicrhau bod y weithdrefn yn gallu mynd i'r afael â chamweddau mynych, lle mae ymddygiad wedi bod yn digwydd dros gyfnod hwy o amser. Mae canllawiau pellach ar yr hyn a olygir wrth achos da wedi’u cynnwys yn y canllawiau.
Mae'r pwyllgor wedi dileu'r ddarpariaeth apelio yn y weithdrefn drwy benderfyniad mwyafrifol. Roedd hwn yn benderfyniad y gwnaethom ei ystyried yn ofalus iawn, gan edrych ar y prosesau mewn Seneddau eraill a phrofiadau’r Senedd ddiwethaf, lle defnyddiwyd y mecanwaith apelio am y tro cyntaf. Ceir nifer o gamau yn y broses sy’n galluogi mewnbwn a her a chodi’r pryderon a nodwyd fel sail ar gyfer apelio, o ystyried bod pob cwyn yn cael sylw gan y comisiynydd ac yn cael ei hystyried gan y pwyllgor, gyda’r adroddiad terfynol yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn. Mae gan yr Aelod y gwnaed y gŵyn amdanynt hawl i fynychu’r cyfarfod pwyllgor perthnasol er mwyn gwneud sylwadau. Fe wnaethom gryfhau cam gwrandawiadau llafar y weithdrefn, fel ei bod yn gliriach mai dyma’r cyfle i’r Aelod godi anghytundeb ynghylch y ffeithiau neu bryderon gweithdrefnol mewn perthynas ag ymchwiliad ac adroddiad y comisiynydd. Gall y pwyllgor hefyd gyfeirio materion a godwyd ar yr adeg hon yn ôl at y comisiynydd i’w hystyried ymhellach.
Y newid mawr olaf yw na fydd y comisiynydd bellach ond yn rhannu’r ffeithiau a sefydlwyd gyda’r achwynydd a’r Aelod y gwnaed y gŵyn amdanynt, a bydd y pwyllgor yn gyfrifol am anfon adroddiad y comisiynydd at yr Aelod y gwnaed y gŵyn amdanynt a’r achwynydd. Bydd hefyd yn ofynnol, ar y pwynt hwn, i’r pwyllgor nodi’r camau nesaf yn y broses i bawb sy'n gysylltiedig â'r mater, a gobeithiwn y bydd hynny'n cynyddu dealltwriaeth o’r broses ac yn mynd i’r afael â rhai o’r pryderon a rannwyd gyda ni ynghylch y gofid o beidio â gwybod beth sy'n digwydd yn ystod y broses gwyno.
Mae’r newidiadau eraill a wnaed gan y pwyllgor i’r weithdrefn wedi’u hamlinellu yn ein hadroddiad. Mae’r newidiadau hyn, gyda'i gilydd, yn creu dogfen sy’n llawer cliriach a haws ei deall na’r fersiwn flaenorol, ac maent hefyd yn ystyried profiadau’r comisiynydd safonau yn ei rolau blaenorol, yn ogystal â thystiolaeth ddefnyddiol gan gomisiynwyr eraill a rhanddeiliaid perthnasol.
Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymchwiliad hwn am roi amser i ddarparu tystiolaeth werthfawr i ni, a sicrhau ein bod wedi gallu gwneud y weithdrefn yn addas i'r diben. Bydd aelodau’r pwyllgor ar gael i drafod unrhyw agwedd ar y weithdrefn ddiwygiedig gydag Aelodau mewn sesiynau galw heibio yr wythnos nesaf. Edrychaf ymlaen at ateb unrhyw gwestiynau sydd gan yr Aelodau yma yn awr.