Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Mae'r gyllideb atodol gyntaf fel arfer wedi bod yn achlysur bach, gan wneud mân newidiadau, ac mae hyn yn gwneud hynny. Ond daw'r gyllideb atodol ar adeg o chwyddiant uchel, sydd ar hyn o bryd yn 9.1 y cant—yr uchaf ers 40 mlynedd—ac efallai'n uwch yn awr na phan ysgrifennais i hyn. Mae hwn yn brofiad unigryw i'r Senedd ac i Lywodraeth Cymru. Bydd chwyddiant yn effeithio ar gyllidebau cyfalaf a refeniw. Mae chwyddiant oherwydd nwyddau wedi'i waethygu gan ddirywiad yng ngwerth y bunt. Mae'r rheini'n ddau fater nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth drostynt o gwbl.
O ran gwariant cyfalaf, amcangyfrifwyd bod cost adeiladu yn codi rhwng 20 a 30 y cant o flwyddyn i flwyddyn, a gyda phrinder llafur a deunyddiau adeiladu, adroddwyd y bydd tarfu ar y gadwyn gyflenwi a chost cynhyrchu uchel parhaus yn parhau i fod yn her i ddiwydiant adeiladu Prydain eleni, sy'n arwain at gynnydd mewn costau deunyddiau—brics, plastrfwrdd, sment, concrit ac ati. Yr hyn y mae'r newidiadau hyn yn ei olygu yw naill ai y bydd angen benthyca ar adeg pan fo cyfraddau llog yn codi, neu bydd y rhaglen gyfalaf yn llithro. Pa raglenni sy'n cael eu rheoli fel bod gwariant yn symud i'r flwyddyn ariannol nesaf? Un o'r triciau bach braf y gall pobl ym myd cyllid ei wneud bob amser yw arafu pethau a'u symud i'r flwyddyn ariannol nesaf. Rydym ar gam cynnar iawn yn y flwyddyn ariannol a gallai pethau wella, ond nid wyf yn credu bod hynny'n debygol iawn.
O ran gwariant refeniw, lle mai cyflog gweithwyr y sector cyhoeddus yw'r prif gost, yna yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r gwahanol gyrff adolygu cyflogau ac mewn trafodaethau uniongyrchol â'r undebau llafur mae dwy risg. Gallai gweithwyr y sector cyhoeddus gael toriadau cyflog sylweddol mewn termau real, gyda'r perygl y bydd lefelau cyflog yn y sector cyhoeddus yn disgyn y tu ôl i'r sector preifat, gan arwain at ymadawiad nifer fawr o staff medrus sydd â sgiliau gwerthfawr y gellir eu marchnata. Fel arall, gallai codiadau cyflog ddod i gyd-fynd â'r gyfradd chwyddiant, ond mae hynny'n achosi problemau cyllidebol i'r sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru ac, yn y pen draw, i Lywodraeth Cymru. Y canlyniad mwyaf tebygol fydd rhywle yn y canol, gan arwain at y gwaethaf o'r ddau fyd.
Er ein bod wedi cael dwy gyllideb atodol yn draddodiadol, a gaf i ailadrodd fy ngalwad yn y Pwyllgor Cyllid am ail gyllideb atodol yn nhymor yr hydref? Bydd hynny ddau fis neu dri mis yn gynharach nag a gawn ni fel arfer, ond credaf fod angen ail gyllideb atodol, oherwydd y sefyllfa ariannol yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd. Yna bydd gennych eich ail gyllideb atodol arferol fel trydedd gyllideb atodol ar yr adeg arferol.
Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i'r Senedd am y sefyllfa ariannu yn ystod y flwyddyn a'i heffaith ar wariant. Gellir gwneud hyn naill ai drwy adroddiadau i'r Pwyllgor Cyllid neu ddatganiadau rheolaidd i'r Senedd. Fel un sydd o hyd yn gweld ochr orau pethau, efallai y bydd arian canlyniadol i Gymru o gynyddu gwariant yn Lloegr. Mae'r un problemau'n wynebu'r sector cyhoeddus yn Lloegr, sy'n dechrau o sefyllfa waeth nag yr ydym ni yng Nghymru, oherwydd dau beth—mantais fformiwla Barnett a rheolaeth dda ar gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Bydd angen i Lywodraeth Cymru adrodd ar unrhyw incwm canlyniadol yn seiliedig ar wariant San Steffan. Rwy'n croesawu'n fawr y darn o ddeddfwriaeth IFRS 16, sy'n golygu bod prydlesi'n cael eu cynnwys mewn cyfrifon. Arferai prydlesi fod yn dric a ddefnyddiwyd gan gyfrifwyr er mwyn cadw gwariant cyfalaf oddi ar y gyllideb. Nid wyf yn credu ei fod yn syniad da iawn, ac rwy'n falch iawn o weld na ellir gwneud hynny mwyach, ac mae'r Llywodraeth wedi dweud na fydd hyn yn arwain at unrhyw newidiadau sylweddol yn yr hyn y mae'n rhaid inni ei wario, ond mae'n golygu y bydd yr holl wariant ar y llyfrau, heb fod elfennau ohono wedi ei guddio oddi ar y llyfrau.
Swyddi'r gwasanaeth sifil—os nad oedd ond cyn waethed ag y soniodd Peredur. Wrth gwrs, mae gennym ni ganran uwch o'n poblogaeth yng Nghymru a gyflogir yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys gweision sifil a delir gan San Steffan, felly, os yw'r gostyngiad i'r graddau y maent yn sôn amdani, yna bydd gennym ni fwy na'n cyfran Barnett o golli swyddi, a fydd yn dinistrio etholaethau fel fy un i, lle cyflogir nifer sylweddol iawn o weision sifil.
Yn olaf, mae'r gyllideb atodol hon wedi'i gosod mewn cyfnod economaidd cythryblus ac, yn awr, gwleidyddol. Felly, a gaf i ailadrodd fy ngalwadau am ail gyllideb atodol yn nhymor yr hydref, sef bod y Senedd, naill ai'n uniongyrchol drwy ddatganiadau'r Llywodraeth i'r Cyfarfod Llawn neu'n anuniongyrchol drwy'r Pwyllgor Cyllid, yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i'r sefyllfa ariannol, a bod y Senedd yn cael ei diweddaru, unwaith eto naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ar y rhaglen gyfalaf ac unrhyw lithriad yn y rhaglen gyfalaf? Nid ceisio cystwyo'r Llywodraeth na beirniadu'r Llywodraeth yw hyn; mae fel ein bod i gyd yn ymwybodol o ble yn union mae'r problemau.