Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Llywydd, diolch i Vikki Howells am y cwestiwn yna. Ym mis Medi, byddwn yn estyn y cynnig gofal plant mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig i'r rheini mewn addysg a hyfforddiant. Bydd hwnnw'n cefnogi mwy o fenywod yng Nghwm Cynon yn arbennig i gael gwaith, ochr yn ochr â holl ymyriadau eraill Llywodraeth Cymru yn y farchnad lafur.