Gwaith yng Nghwm Cynon

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 12 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 1:31, 12 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Mae hefyd yn gadarnhaol iawn gweld yr ystod o ymyriadau posibl o dan ReAct+ i gefnogi pobl i gael gwaith. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod hyn yn cyd-fynd â'r cyfleoedd a grëir mewn economi werdd wrth i ni symud tuag at sero net, fel y gall pobl yng Nghwm Cynon hyfforddi ac ailhyfforddi ar gyfer y swyddi y mae arnom eu hangen yn awr ac yn y dyfodol?