Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Prif Weinidog, mae niwclear yn rhan fach o'n rhagolygon o ran cynhyrchu ynni yng Nghymru. Gyda'n hadnoddau naturiol, gallwn gynnig potensial mawr i gynhyrchu ynni adnewyddadwy o wynt, tonnau a llanw. Gyda hynny mewn golwg, Prif Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi mor siomedig oedd gweld dim ond pedwar prosiect o Gymru yn llwyddo yng nghylch ariannu diweddaraf Contractau ar gyfer Gwahaniaeth Llywodraeth y DU, ac, o'r pedwar, dim ond un prosiect ffrwd llanw llwyddiannus?