Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Llywydd, mae'r llif cleifion rhwng gogledd Cymru a Lloegr yn cael ei reoli rhwng y cyrff iechyd ar ddwy ochr y ffin. Mae'r egwyddorion ar gyfer darparu gofal iechyd trawsffiniol wedi eu nodi yn y datganiad gwerthoedd ac egwyddorion trawsffiniol sydd wedi eu cytuno rhwng y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr.