Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Yng ngoleuni problemau blaenorol gyda chyllido gwasanaethau gofal iechyd trawsffiniol—a dwi'n meddwl yn benodol am broblemau a gododd gydag Ysbyty Countess of Chester rai blynyddoedd yn ôl ac ychydig yn fwy diweddar gydag ysbyty Gobowen—ydych chi'n hyderus bod y cyllido ar gyfer gofal iechyd trawsffiniol mewn ysbytai fel Walton yn ddigonol i sicrhau nad yw cleifion o Gymru yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd? Oherwydd fy nealltwriaeth i yw nad ydyn nhw'n medru cael eu trin o fewn 26 wythnos am resymau ariannol.