Y Sector Rhentu Tymor Hir

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 12 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:18, 12 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Nawr, yn ychwanegol at y tai sy'n cael eu gwerthu fel cartrefi gwyliau neu lety gwyliau, rwyf wedi dod yn ymwybodol yn ddiweddar o'r arfer o droi tenantiaid hirdymor allan fel y gellir troi eu cartrefi'n lletyau gwyliau tymor byr. Mae etholwyr yn dweud wrthyf ei fod yn digwydd ar draws ein cymunedau arfordirol.

Mae gweithredoedd un landlord yn peri pryder arbennig. Drwy fraint hanesyddol, mae ystad Bodorgan yn landlord pwysig iawn, efallai ein landlord mwyaf adnabyddus o'r adeg pan oedd Dug a Duges Caergrawnt ar Ynys Môn. Mae'r ystad yn berchen ar lawer o dai, ond rwyf wedi siarad â thenantiaid sy'n dweud y dywedwyd wrthyn nhw i adael fel y gellir troi eu cartrefi'n lletyau haf. Nawr, yn yr Alban, pori dwys a arweiniodd at Gliriadau'r Ucheldiroedd gwarthus yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ar Ynys Môn, yn yr unfed ganrif ar hugain, twristiaeth ydyw, ond yr un yw'r egwyddor. O raddfa'r hyn rwy'n ei glywed, rwy'n ofni y byddwn yn colli rhannau helaeth o'r boblogaeth barhaol.

Drwy ein cytundeb cydweithio, cyhoeddwyd nifer o fesurau i ddechrau mynd i'r afael â'r sefyllfa, gan gynnwys y cynlluniau hynny ar gyfer system drwyddedu cyn y gellir troi cartref yn llety gwyliau tymor byr. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno na ellir oedi, a pha gamau y gallai eu cymryd yn awr i geisio atal yr arfer o droi pobl allan sydd eisoes ar waith?