Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Wel, dwi ddim wedi clywed hynny, Llywydd. Dwi'n cydnabod y ffaith, yn y gorffennol, fod rhai problemau wedi cael eu codi, ond nawr mae system newydd gyda ni ac mae uwch swyddogion yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru a dros y ffin yn Lloegr yn dod at ei gilydd. Roedden nhw'n cwrdd ddydd Gwener ddiwethaf, ac maen nhw'n gweithio trwy unrhyw broblemau, lawr at lefel unigolion, os oes problemau yn codi. Ces i ryw fath o adborth mas o'r cyfarfod ar ddydd Gwener, ac fel dwi wedi clywed, doedd neb wedi codi'r pwynt bod arian wedi bod yn broblem yn y system sydd gyda ni, yn Lerpwl neu unrhyw ysbyty arall lan a lawr y ffin.