2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 12 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:41, 12 Gorffennaf 2022

Mi leiciwn i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig ar y camau mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i helpu gweithwyr gofal yn sgil y cynnydd mawr mewn costau tanwydd. Roeddwn i'n trafod y mater efo swyddogion undeb Unsain ddoe. Mae gweithwyr gofal mewn ardaloedd gwledig yn arbennig yn gorfod gyrru cryn bellter rhwng tai'r bobl maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, a dydy'r arian maen nhw'n ei gael yn ôl, erbyn hyn, ddim yn ddigon i dalu costau'r tanwydd i'w ceir a chynnal a chadw. A'r gwir amdani ydy eu bod nhw mewn gwirionedd yn sybsideiddio eu cyflogwyr rŵan, ac yn gorfod torri arian o'u cyllideb deuluol er mwyn gwneud hynny. Dwi'n gwybod mai yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig mae'r prif lifers o ran gostwng prisiau a chaniatáu hawlio mwy o arian yn ôl yn ddi-dreth ac ati, ond mi hoffwn i wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried fel camau, o daliadau uniongyrchol i drio annog talu'r gweithwyr yma fesul wythnos i gael eu harian yn ôl, neu ganiatáu buddsoddi gan eu cyflogwyr nhw mewn pool cars, ceir trydan hyd yn oed. Rydym ni'n sôn yn y fan hyn am sefyllfa lle mae'r caledi wir yn brathu, ac rydym ni'n sôn am weithwyr sydd yn ofalgar ac yn gwbl, gwbl allweddol.