Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog gofal cymdeithasol yn ymwybodol o'r pryder ynghylch hyn, ac mae'n amlwg bod cost tanwydd yn rhywbeth, fel y dywedwch, lle mae'r ysgogiadau gan Lywodraeth y DU. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn parhau i gael trafodaethau gydag awdurdodau lleol, ond hefyd gyda chymheiriaid Llywodraeth y DU.