Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Llyr Gruffydd am ei sylwadau ef heddiw, a thrwy Llyr fe hoffwn i ddiolch i Cefin Campbell am y gwaith rhagorol, a wnaethom ni, rwy'n credu, gyda'n gilydd, o ran y maes penodol hwn o'n cytundeb cydweithio ni, ac am ei ymagwedd wirioneddol adeiladol ef a'r syniadau a'r her a gyflwynodd i'r gwaith hyd yn hyn. Fe wn i fod llawer mwy i'w wneud gennym ni eto yn hyn o beth, oherwydd, fel dywedais i, dim ond y cam cyntaf o'n hymgynghoriadau yw hwn, a dyna pam mae hi mor bwysig ein bod ni'n edrych ar draws ystod eang o faterion, a ddisgrifiodd Llyr Gruffydd heddiw, a'r cyntaf yw cynllun ar gyfer gostyngiadau i'r dreth gyngor ac archwilio beth yw ein cynlluniau ni ar gyfer diwygio hwnnw. Rwyf i o'r farn y byddai gwneud cynllun ehangach y dreth gyngor yn rhywbeth mwy blaengar yn lleihau'r galw am gymorth drwy ein cynllun gostyngiadau i'r dreth gyngor, ond rydym ni'n dal i ddisgwyl y bydd angen parhaus i gefnogi aelwydydd incwm isel gyda'u biliau treth gyngor nhw, sef un o'r rhesymau pam yr ydym ni'n ymholi o ran pa newidiadau y gallai fod eu hangen i'r cynllun yn y dyfodol.
Ein nod ni, wrth gwrs, yw cefnogi'r rhai sydd â'r angen amdano, ac mae'n rhaid i ni ystyried yr amodau ehangach, fel cyflwyno credyd cynhwysol, sydd wedi cael effaith fawr ar y dreth gyngor a'r cymhwysedd i gael cymorth, a hefyd, wrth gwrs, y newidiadau i'r economi ehangach. Rydym ni'n awyddus i fanteisio ar y cyfle i wella dyluniad y cynllun i'w gwneud hi'n haws i'w weinyddu ef ac yn amlwg ei gwneud hi'n symlach i bobl gael gafael ar y cymorth y mae ganddyn nhw'r hawl iddo yn y lle cyntaf. Ar hyn o bryd mae ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn cefnogi 270,000 o aelwydydd gyda'u biliau nhw ac mae dros 210,000 ohonyn nhw'n talu dim o gwbl tuag at y dreth gyngor oherwydd y cymorth yr ydym ni'n gallu buddsoddi ynddo. Mae tua 20 y cant o aelwydydd, felly, yn cael rhywfaint o help gyda'u biliau nhw, ond fe wyddom ni fod y dirwedd yn newid trwy'r amser yn hyn o beth, ac felly mae angen i ni roi ystyriaeth i hyn yn rhan o'n hymgynghoriad ni. Mae rhai cwestiynau penodol ar hyn yn yr ymgynghoriad, a fydd yn ein helpu i ddeall y ffordd orau ymlaen.
Yna, hefyd, fe soniwyd am ostyngiadau ac eithriadau. Mae'r dirwedd bresennol yn gymhleth iawn yn hyn o beth, ac mae'r gostyngiadau a'r eithriadau wedi tyfu yn raddol ers sefydlu'r dreth gyngor yn 1993, felly rwy'n credu bod yr adolygiad hwn o'r materion hyn yn hynod amserol, yn fy marn i, o ran deall pa newidiadau y gallem ni fod yn awyddus i'w gwneud. Rwy'n credu ei bod hi'n rhy gynnar ar hyn o bryd i ddweud beth allai'r newidiadau hynny fod. Mae'n rhaid i ni ymgymryd â'r gwaith sydd gennym ni. Mae'n rhaid inni wrando ar bobl drwy gyfrwng yr ymgynghoriad. Ond rydym ni wedi sefydlu gweithgor o swyddogion ac ymarferwyr yn yr awdurdodau lleol dan arweiniad arbenigwyr i helpu i ystyried yr agwedd benodol hon ac ystyried yr adolygiad o'r trefniadau cyfredol. Ar hyn o bryd, mae tua 37 y cant o anheddau yn gallu cael un neu ragor o ostyngiadau ar hyn o bryd, ac mae 4 y cant o anheddau wedi cael eu heithrio, felly dyna gyfanswm o bron i 600,000 o'n 1.5 miliwn ni o dai yng Nghymru, felly mae hi'n amlwg bod llawer o waith eto i ni ei wneud i sicrhau cywirdeb yr eithriadau a'r gostyngiadau yn y dyfodol. Fe fydd rhai o'r newidiadau hyn yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol; er enghraifft, pe byddem ni'n gwneud unrhyw newidiadau i'r gostyngiad un oedolyn, fe fyddai hynny'n gofyn deddfwriaeth sylfaenol, er enghraifft.
Rwyf i o'r farn y gwnaethpwyd y pwyntiau ynglŷn â dyledion ac ôl-ddyledion yn effeithiol iawn hefyd. Rydym ni wedi cyflwyno protocol y dreth gyngor ar gyfer Cymru, sy'n ffordd i ni geisio adeiladu'r arfer da hwnnw wrth gasglu'r dreth gyngor mewn llywodraeth leol. Lluniwyd hwnnw ar y cyd â llywodraeth leol ac fe'i cymeradwywyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chytunodd pob un o'r 22 awdurdod arno. Ond erbyn hyn rydym ni wedi dechrau adolygu a gwerthuso rhai o'r camau allweddol y gwnaethom ni eu cymryd yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf i geisio sicrhau bod pobl yn gallu ymdrin â dyledion a chael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Felly, mae honno'n rhan bwysig o'r ymgynghoriad, ac, unwaith eto, fe geir materion ynglŷn â dyled ac ôl-ddyledion.
Yn olaf, rwy'n credu bod y pwyntiau yn wirioneddol bwysig ynglŷn â'r awdurdodau lleol a'r effaith arnyn nhw, oherwydd, wrth gwrs, mae natur y sylfaen drethi yn wahanol ledled Cymru, ac mae ein hymgynghoriad ni'n cydnabod ac yn rhoi ystyriaeth i hynny. Felly, fe fyddwn ni'n dadansoddi effeithiau ailbrisio ar awdurdodau lleol ar ôl i ni gael yr wybodaeth ychwanegol honno, y cyfeiriais i ati, am Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn diweddaru'r ffigurau, gan wneud hynny cyn y pandemig, ac fe fydd hynny'n ein helpu ni i gael golwg manylach ar Gymru a'r goblygiadau posibl. Ond mae hi'n wir, yn fy marn i, y byddai'r diwygiadau a amlinellir yn newid natur y sylfaen drethi yn anochel ym mhob ardal, ac felly mae'r ymgynghoriad yn cynnig wedyn y byddai cyllid ar gyfer awdurdodau drwy'r grant cynnal refeniw yn cael ei ailddyrannu yn ôl y sylfaen dreth ddiweddaraf. Rwy'n credu mai honno yw'r ffordd decaf o wneud hyn. Ond, unwaith eto, mae angen i ni ystyried pa drefniadau trosiannol y gallai fod eu hangen nhw ar lywodraeth leol yn y cyswllt hwn.
Felly, maes pwysig arall o'r ymgynghoriad lle yr ydym ni'n awyddus i glywed oddi wrth lywodraeth leol ac eraill, ac rwy'n credu na wnes i ymateb i'r pwynt a wnaeth Sam Rowlands yn gynharach am bwysigrwydd ehangder yr ymgynghoriad, felly mae'n amlwg y bydd gan lywodraeth leol farn gref ynglŷn â'r elfen arbennig honno o'r ymgynghoriad, ond fe gyfeiriodd Llyr Gruffydd wedyn at bobl hŷn o bosibl, felly fe fydd sefydliadau pobl hŷn yn awyddus i gyfrannu hefyd, ac fe fydd yna bobl o bob math â diddordeb yn hyn, yn amlwg, oherwydd mae'r dreth gyngor yn effeithio ar bob un ohonom ni.
Ond rwy'n awyddus i egluro nad oes yn rhaid i bobl ateb y cwestiynau i gyd, felly os oes gan breswylydd farn gref ac yn dymuno ei rhannu gyda ni, nid oes yn rhaid teimlo rheidrwydd i ateb y cwestiynau am lywodraeth leol ac ati—dim ond ymgysylltu â ni i'r graddau y mae pobl yn dymuno gwneud hynny, er mwyn i ni allu clywed cymaint o leisiau amrywiol ag y gallwn ni.