Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? Mae'n dda gweld yn y datganiad nifer o brif elfennau polisi diwygio treth gyngor Plaid Cymru, wrth gwrs—yr hyn oedd gennym ni yn ein maniffesto—yn enwedig o gwmpas ailbrisio; cynyddu nifer y bandiau, yn enwedig ar ben uchaf gwerthusiadau tai; a hefyd, wrth gwrs, sicrhau nawr fod y dreth gyngor yn dod yn fwy cymesur â gwerth eiddo.
Mae'r cymhelliad i ddiwygio yn glir, onid yw e? Mae'r system bresennol wedi dyddio; i bob pwrpas, mae'n etifeddiaeth o gyfnod Thatcher. Hon yw'r dreth fwyaf regressive yn yr ynysoedd yma, sy'n codi bron i bedair gwaith cymaint o gyfran o gyfoeth ar y tlotaf o gymharu â'r cyfoethocaf. Felly, mae'n hen bryd ailddosbarthu'r baich yna yn decach ar draws cymdeithas a sicrhau bod y rhai sydd â'r ysgwyddau lletaf yn cario ychydig mwy o'r baich hwnnw.
Jest i bigo lan ar rai o'r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud, wrth gwrs, mae'n dda gweld y pwyslais, fel roeddech yn ei ddweud, Weinidog, ar wella'r cynllun cefnogi cenedlaethol ac edrych ar y fframwaith ar gyfer y disgowntiau ac eithriadau, oherwydd mi fydd nifer o bobl yn poeni, wrth gwrs, yn enwedig, efallai, pobl mewn oed, fod gwerth eu heiddo nhw ddim o reidrwydd yn adlewyrchu eu gallu nhw i dalu. Felly, y cwestiwn cyntaf gen i yw: pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r rheini y bydd eu hamgylchiadau nhw yn cael eu hystyried yn llawn fel rhan o'r ymgynghoriad yma? Ond hefyd, wrth gwrs, ar y llaw arall, beth yw'ch neges chi i awdurdodau lleol lle mae yna ddiboblogi a lle mae yna boblogaeth sy'n heneiddio, sydd, wrth gwrs, yn ffactorau all effeithio yn sylweddol ar y dreth a fydd yn cael ei chasglu yn yr ardaloedd hynny? Tra'n derbyn bod hwn yn ymarferiad a fydd, fel rŷch chi'n ei ddweud, yn refeniw niwtral, mae angen hefyd sicrhau bod awdurdodau lleol unigol ddim yn colli allan pan fo'n dod i sicrhau'r refeniw i gynnal y gwasanaethau allweddol rŷn ni gyd eisiau eu gweld.
Mae pobl yn cwyno bod y system bresennol yn annheg, ac mae hynny'n gywir, oherwydd mae pobl yn gweld hefyd amrywiaeth amlwg ym miliau'r dreth gyngor ledled Cymru, ac mae'r system yn anghyson. Dwi wedi cyfeirio yn y Siambr hon o'r blaen am lefydd fel pentrefi Ystradowen a Chwmllynfell, sydd tua 100 llath oddi wrth ei gilydd ond mae yna wahaniaeth o gannoedd o bunnoedd rhwng eu biliau priodol. Felly, mae rhywun yn ymwybodol bod yna anghysondeb ac annhegwch. I ba raddau ydych chi'n rhagweld y bydd y broses yma o bosib yn trio mynd i'r afael ag ychydig o hynny, wrth gwrs yn amddiffyn integriti awdurdodau lleol i godi'r refeniw y maen nhw ei angen drwy'r dreth gyngor? Does dim dianc o'r ffaith bod yna densiynau o safbwynt yr amrywiaeth y mae pobl yn ei weld o un rhan o'r wlad i'r llall.
Wrth gwrs, mae'r polisi a'r newid arfaethedig yma yn fwy amserol nag erioed wrth inni wynebu'r creisis costau byw. Fe all diwygiadau i'r dreth gyngor—. Y bil treth gyngor, wrth gwrs, yw un o'r biliau mwyaf sylweddol y mae cartrefi yn ei wynebu bob blwyddyn. Mi all y diwygiadau fod yn gam radical i helpu llawer o'n haelwydydd ni i ymdopi'n well â'r hyn maen nhw'n ei wynebu. Rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, fod ôl-ddyledion treth gyngor wedi profi i fod yn un o elfennau mwyaf dyled cartref.
Roeddech chi'n sôn, wrth gwrs, ac rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth rŷch chi'n ei rhoi, ynglŷn â'r hyn roeddech chi'n ei alw'n targeted transitional arrangements, ac rŷch chi wedi ymateb i hynny, i raddau, yn barod, ond sut fyddwch chi'n delio, efallai, ag ôl-ddyledion yn benodol wrth symud o un gyfundrefn i'r gyfundrefn newydd? Ac, wrth gwrs, yn y tymor hirach, i ba raddau all unrhyw gynlluniau newydd, neu ddull newydd o gwmpas y dreth gyngor, osgoi sefyllfaoedd lle mae'r ôl-ddyledion yma yn adeiladu i fyny i'r fath raddau yn y lle cyntaf?