3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Treth Gyngor Decach

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 12 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:01, 12 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn i Sam Rowlands am ei gyfraniad ef y prynhawn yma, a'i awydd i gydweithio ar agenda sydd mor bwysig o ran gwneud y dreth gyngor yn decach. Mae'n debyg mai'r rheswm pam rydym ni wedi cyfeirio at ein hymgynghoriad fel ymgais i wneud y dreth gyngor yn decach, yn hytrach na diwygio'r dreth gyngor ynddi ei hun, yw oherwydd mai 'mwy o degwch' yw'r hyn yr ydym ni'n ei geisio, a'r 'diwygio', os mynnwch chi, yw'r ffordd yr ydym ni'n ymgyrraedd at hynny.

Rwyf i am ddechrau gyda'r pwynt y gwnaethoch chi orffen arno, mewn gwirionedd, o ran edrych ar ffyrdd eraill o sicrhau gwelliant o ran tegwch yn y dreth gyngor. Wrth gwrs, yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf, fe wnaethom ni lawer iawn o ymchwil a oedd yn edrych yn gyfan gwbl ar hynny, mewn gwirionedd, o ran gwahanol ddewisiadau ar gyfer diwygio. Fe wnaethom ni ymgysylltu ag arbenigwyr yn y maes drwy'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd ymysg eraill, ac fe edrychwyd ar nifer o ffyrdd y gallem ni fwrw ymlaen â'r agenda hon. Un ohonyn nhw oedd y dreth incwm leol yr oeddech chi'n cyfeirio ati hi, ac fe wnaethom ni ddiystyru honno am nad oedd ganddi rai o'r manteision y dechreuodd Sam Rowlands sôn amdanyn nhw yn ei gyfraniad ef, yn yr ystyr bod y dreth gyngor yn seiliedig ar eiddo, sy'n ased sefydlog, sy'n syml ei deall, mae hi'n anodd cuddio eich eiddo ac ati. Felly, rwyf i o'r farn fod rhai manteision yn bendant i'w cael drwy system sydd ar sail eiddo.

Rydym ni wedi ystyried treth gwerth tir bosibl hefyd, ac fe wnaeth Prifysgol Bangor rywfaint o ymchwil i ni yn y cyswllt hwnnw. Rydym ni wedi ymrwymo i barhau i edrych ar y syniad hwnnw, nid yn unig i ddisodli'r dreth gyngor ond ar gyfer ardrethi annomestig hefyd, er fy mod i o'r farn ei bod hi'n dra chydnabyddedig ei bod hi'n anos gwneud hynny ar gyfer ardrethi annomestig. Ond rydym ni'n parhau â'r gwaith hwnnw, gan archwilio sut ffurf allai fod i raglen hirdymor i ddiwygio o bosibl, ochr yn ochr â'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud yn y byrdymor o ran yr agenda i ddiwygio'r dreth gyngor.

Rydym ni hefyd wedi bod yn ymwybodol iawn o'r ailbrisio a'i effaith. Fel dywed Sam Rowlands, mae tua 1.5 miliwn o anheddau domestig yng Nghymru yn agored i'r dreth gyngor ar hyn o bryd, ac mae pob un yn cael ei roi yn un o'r naw band hynny. Fe fydd ailbrisio yn diweddaru band treth pawb, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i bobl sy'n cymryd diddordeb yn hyn eisoes gydnabod nad yw'r ffaith fod gwerth eich eiddo chi wedi cynyddu ers yr ailbrisiad diwethaf yn golygu, o reidrwydd, y bydd eich treth gyngor chi'n codi, oherwydd ni fydd y defnydd cyffredinol o'r dreth gyngor yn cynyddu; nid hynny yw pwrpas yr ymarfer hwn—mae'n ymwneud ag ailddosbarthiad ledled y bandiau sy'n golygu mwy o degwch.

Rwy'n credu, unwaith eto, fod Sam Rowlands yn iawn o ran cydnabod effaith trefniadau trosiannol. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, yn ystod yr ailbrisiad diwethaf, pan ddaeth i rym yn 2005, i ni fod yn rhy hwyr, mae'n debyg, wrth gyflwyno'r syniad o drefniadau trosiannol. Rydym ni'n gwneud hyn yn iawn o'r cychwyn cyntaf nawr i ystyried sut ffurf y dylai fod i'r trefniadau trosiannol hynny, oherwydd dyna un o'r gwersi a ddysgwyd gennym ni'n sicr o'r ymarfer ailbrisio diwethaf.

Rwy'n credu bod y ffaith ein bod ni'n ystyried ychwanegiadau at fandiau a chynnal yr ymarfer ailbrisio yn bwysig, ond nid wyf i o'r farn y dylem ni golli golwg ar bwysigrwydd y gwaith yr ydym ni'n ei wneud o ran adolygu ein proses o ddiystyru ac eithrio, oherwydd fe fydd hyn yn hollbwysig o ran sicrhau ein bod ni'n estyn y gyfradd gywir o gymorth i'r rhai sydd ei angen, ochr yn ochr â'r adolygiad o'n cynllun ni i gynnig gostyngiadau yn y dreth gyngor, oherwydd rydym ni'n awyddus i barhau i gefnogi'r aelwydydd hynny y mae angen y cymorth hwnnw arnyn nhw.

O ran yr ailbrisio blaenorol, fe gawsom ni'r ffigurau gan Sam Rowlands o ran sut yr effeithiwyd ar aelwydydd yn y gorffennol. Fe wyddom ni o'r gwaith a wnaeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid pe byddem ni'n ailbrisio gan gadw'r naw band sydd gennym ni ar hyn o bryd, y byddai tua chwarter yn symud i fandiau uwch, byddai chwarter yn symud i fandiau is ac fe fyddai tua hanner yn aros yr un fath. Ond fe gynhaliwyd yr ymchwil hwnnw cyn y pandemig, ac felly rydym ni wedi gofyn i'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wneud darn arall o ymchwil i ddiweddaru hwnnw er mwyn i ni fod â gwell dealltwriaeth o'r goblygiadau yn hyn o beth.