3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Treth Gyngor Decach

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 12 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative 2:57, 12 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am gyflwyno datganiad heddiw ynglŷn â threth gyngor decach, un yr wyf i wedi bod yn edrych ymlaen ato ac rwy'n siŵr fod llawer ohonom ni wedi bod yn edrych ymlaen ato hefyd? A gaf i hefyd groesawu cydbwysedd eich sylwadau chi o ran cydnabod rhai o elfennau cadarnhaol y dreth gyngor fel mae hi ar hyn o bryd? Rwy'n credu i chi ddweud y ceir llawer iawn o bethau cadarnhaol yn y system treth gyngor na ddylem ni golli golwg arnyn nhw, a'i bod hi wedi sefyll prawf amser ers y 1990au ac yn cynrychioli democratiaeth leol ar waith, ac rwy'n siŵr y byddai'r ddau ohonom ni'n awyddus i weld hynny'n parhau. Yn ogystal â hynny, rwy'n cydnabod eich pwynt chi wrth dynnu sylw at rai gwelliannau yn y system a allai ac a ddylai ddigwydd hefyd.

Wrth ymateb i'ch datganiad chi heddiw, Gweinidog, fe hoffwn i groesawu'r ffaith hefyd eich bod chi'n ymgynghori ar ddyfodol y dreth gyngor yma yng Nghymru. Fel gwyddom ni, mae'r dreth gyngor yn effeithio ar bob aelwyd ar hyd a lled Cymru, ac mae hi'n hanfodol bwysig ein bod ni'n annog cynifer o bobl â phosibl i ymgysylltu ag unrhyw broses o newid, gan gynnwys un sy'n ymwneud â'r dreth gyngor. Ond, un pryder sydd gennyf i o ran ymgynghoriadau, Gweinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi yn hyn o beth o bryd i'w gilydd, yw nad ydym ni'n aml yn cael ymateb sy'n ddigon cynhwysfawr, gyda llawer o rannau o'n cymuned ni'n dal yn ôl. Felly, yng ngoleuni hyn, tybed pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd yr ymgynghoriad hwn yn sicrhau bod pobl o bob cefndir yn cael eu cynnwys a bydd eu llais yn cael ei glywed.

Yn ail, Gweinidog, fel gwyddom ni o'ch datganiad chi heddiw, bydd cynnig y dreth gyngor yn arwain at ailbrisiad llwyr o bob un o'r 1.5 miliwn o dai sydd yng Nghymru, gyda'r nod o sicrhau bod prisiadau yn gyfredol a bod pobl yn talu'r swm priodol o dreth gyngor. Yn sicr, fe fyddem ni'n dymuno gweld yr wybodaeth fwyaf cyfredol bosibl. Rwyf innau'n cytuno â hynny. Wrth gwrs, yr ailbrisio hwn fydd y cyntaf ers 2003 yng Nghymru, ac roedd hwnnw'n ddadleuol ar y pryd, oherwydd fe gafodd un o bob tair aelwyd fil uwch nag yr oedden nhw'n ei dalu o'r blaen. Mae hi'n hanfodol bwysig bod unrhyw newid yn arwain at newid teg i dalwyr y dreth gyngor ac na fydd yn gorfodi unrhyw un i ddioddef colled ariannol ddirfawr. Felly, yn ogystal â hynny, mae hi'n hanfodol bod y rhai sydd ar incwm sefydlog, fel pensiynwyr, nad oes ganddyn nhw incwm sylweddol o bosibl yn gymesur â gwerth eu tai nhw, yn cael eu hystyried mewn ffordd briodol hefyd. Felly, Gweinidog, sut ydych chi am sicrhau na fydd unrhyw ailbrisio yn gweld yr un camgymeriadau ag yn 2003, ac na fydd teuluoedd sy'n gweithio'n galed a'r rhai ar incwm sefydlog yn cael eu taro gyda biliau uwch fel hyn?

Ac yn olaf, Gweinidog, rwy'n sylwi o ddatganiad heddiw eich bod chi'n defnyddio'r term 'treth gyngor decach' nawr, ac rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn gefnogol i'r syniad hwnnw, ond roeddech chi'n sôn o'r blaen am ddiwygio'r dreth gyngor, roeddech chi'n bwriadu cyflawni mwy yn eich datganiadau blaenorol, efallai. Ac rwy'n meddwl tybed ai'r rheswm am hynny yw bod Llywodraeth Cymru o'r farn erbyn hyn nad yw eich cynigion chi'n golygu digon o newid i alw hynny yn ddiwygio gwirioneddol. Gweinidog, rwy'n sicr yn gallu derbyn bod angen rhywfaint o adolygu ar y system dreth gyngor bresennol. Eto i gyd, nid wyf i'n siŵr a yw eich cynigion presennol chi'n ddiwygiadau gwirioneddol. Felly, yng ngoleuni eich ymgynghoriad chi, tybed a ydych chi'n gweld unrhyw ddewisiadau eraill yn hytrach nag ailbrisio, ac ychydig o fandiau ychwanegol a gynigir hefyd. Er enghraifft, yn yr ymgynghoriad, fe allem ni weld awgrymiadau fel treth eiddo gyfrannol, y gwn i y byddai rhai Aelodau yn y Siambr hon yn ei chefnogi, neu dreth incwm leol, er enghraifft, neu hyd yn oed treth gyngor sy'n gysylltiedig ag effeithlonrwydd ynni eich cartref chi efallai i helpu i gymell pobl i wneud eu tai nhw'n fwy effeithlon o ran ynni.

Felly, yng ngoleuni hyn, pa asesiad a wnaethoch chi o ddewisiadau amgen gwirioneddol y gellir eu tynnu nhw o'r ymgynghoriad, ac os felly, a fyddech chi'n ymrwymo i archwilio'r rhain eto fel gall yr ymgynghoriad fod mor benagored â phosibl? Ac rwy'n siŵr, Gweinidog, yr ydych chi'n gwybod ar yr ochr hon i'r meinciau, fod gennym ninnau syniadau rhagorol ar gyfer diwygio—efallai na fyddech chi'n cytuno â nhw bob amser—ac rwyf innau, wrth gwrs, yn hapus i weithio gyda chi i ystyried y rhain, ac yn edrych ymlaen at yr ymgysylltiad parhaus hwnnw. Diolch yn fawr iawn i chi.