Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
O'r cychwyn cyntaf, hoffwn ailadrodd cefnogaeth Plaid Cymru i'r warant i bobl ifanc, a'n hawydd, yn debyg i un y Ceidwadwyr Cymreig, i weithio'n adeiladol gyda'r Llywodraeth ar hyn. Yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw hwn, credaf ei bod yn bwysig bod pobl ifanc yn teimlo bod cyfle yng Nghymru, ac mae hyn, wrth gwrs, yn chwarae rhan i sicrhau hynny. Wrth gwrs, rydym ar hyn o bryd yn gweld gweithwyr ledled y wlad yn mynnu cyflog tecach a gwell amodau yn y gweithle. Pobl ifanc yn aml yw'r rhai mwyaf tebygol o fynd i waith ansicr, ansefydlog a chyflog isel. Felly, i'r perwyl hwnnw, byddai gennyf ddiddordeb mewn dysgu mwy am sut mae'r warant i bobl ifanc yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o'u hawliau yn y gweithle. A oes lle, er enghraifft, i greu ymgyrch 'Gwybod eich hawliau'?
Nawr, cyhoeddodd Chwarae Teg adroddiad yn ddiweddar o'r enw 'Tuag at Gydraddoldeb Rhywedd yng Nghymru: Ymateb i Economi sy’n Trawsnewid'. Cafwyd nifer o ganfyddiadau diddorol ar brentisiaethau yn benodol. Er enghraifft, mae prentisiaethau, er eu bod yn llwybr allweddol i lawer o ddiwydiannau, yn parhau i wahanu'n sylweddol ar sail rhyw, a hyd yma, ni roddwyd unrhyw dargedau ar ddarparwyr ychwaith i helpu i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau mewn prentisiaethau, ac mae'r cynnydd tuag at gau'r bylchau hyn yn parhau'n araf. Cydnabuwyd rhai o'r heriau hyn yn eich datganiad, ond, o ystyried yr anghysondebau amlwg rhwng y rhywiau rhwng gwahanol ddewisiadau prentisiaeth a ddatgelwyd gan Chwarae Teg, sut mae'r warant i bobl ifanc yn gweithio i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn? Ac a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried gosod gofynion ar ddarparwyr prentisiaethau i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn?
Wrth gwrs, elfen bwysig i'w hystyried hefyd, wrth i ni fynd i'r dyfodol, yw'r risgiau a achosir gan awtomeiddio. Amcangyfrifir y bydd 25 y cant o swyddi'n newid oherwydd awtomeiddio a bydd 10 y cant o swyddi'n cael eu hawtomeiddio'n llawn. Ac mae hyn yn gysylltiedig ag adroddiad Chwarae Teg, oherwydd bod menywod yn cyfrif am 70.2 y cant o'r gweithlu mewn swyddi sydd mewn perygl mawr o gael eu hawtomeiddio, 50.3 y cant mewn risg canolig a 42.6 y cant mewn risg isel. Ar ben lleihau anghysondebau rhwng y rhywiau o ran dewis cyrsiau addysgol, pa systemau sydd ar waith i sicrhau bod menywod a merched yn cael cyfle teg i gael eu cynrychioli yn y chwyldro diwydiannol nesaf o awtomeiddio a diwydiannau gwyrdd?
Elfen bwysig i'w hystyried ymhellach yw'r rhai sy'n hunangyflogedig. Mae hunangyflogaeth wedi cynyddu yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf ac mae bellach yn cyfrif am bron i un o bob saith gweithiwr ledled Cymru, ac mae i'w groesawu bod y grant dechrau busnes newydd i bobl ifanc yn cynnig hyd at £2,000, yn ogystal â'r cymorth ychwanegol drwy'r mentora un i un. O ystyried adroddiad diweddar Sefydliad Bevan a ganfu fod incwm cyfartalog person hunangyflogedig yn llai na dwy ran o dair o incwm cyflogai, a nododd hefyd fod ganddo risgiau o ansicrwydd ariannol a thlodi, pa rwydi diogelwch sydd ar waith i gefnogi'r bobl ifanc hynny sy'n ei chael yn anodd bod yn hunangyflogedig, yn enwedig yn ystod cyfnod mor ansicr, wrth i ni adfer ar ôl y pandemig a bod yng nghanol argyfwng costau byw na welwyd ei debyg o'r blaen, y tu hwnt, wrth gwrs, i'r hyn yr ydych chi eisoes wedi'i amlinellu? Bydd cymorth hirdymor yn allweddol i'w llwyddiant.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae cyfran y boblogaeth dros 65 oed yng Nghymru wedi cynyddu o 18.4 y cant yn 2011 i 21.3 y cant yn 2021. Mae dros un rhan o bump o'n poblogaeth bellach dros 65 oed. Yn y cyfamser, mae cyfran y bobl ifanc 15 i 24 oed yng Nghymru rhwng 2011 a 2021 wedi gostwng. O ystyried canlyniadau'r cyfrifiad, sut y byddwn yn monitro effeithiolrwydd y warant, nid yn unig ar gyfer gwell canlyniadau i bobl ifanc, ond o ran yr effaith ar economi Cymru, er enghraifft cadw talent yng Nghymru yn gyffredinol ac yn ein cymunedau gwledig i fynd i'r afael â draen dawn? Diolch.