Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Y peth hawsaf yn y byd yw dweud bod pethau ddim yn ddigon uchelgeisiol, ond dyw e jest ddim yn wir. Dyw e jest ddim yn wir, beth mae’r Aelod wedi’i ddweud. Beth yw’ch diffiniad chi o uchelgais os nad cydnabod mai dyma’r cynlluniau strategol cyntaf ers 2014 sydd wedi’u gyrru gan darged wedi’i gyfrifo gan y Llywodraeth, nid gan y cynghorau lleol? Felly, os nad yw hynny’n arwydd o uchelgais, a’n bod ni wedi nodi beth rŷn ni’n credu yw’r nod, ac mae pob un awdurdod wedi derbyn y nod hwnnw—. Os gwnaiff pob un awdurdod gyrraedd rhan isaf yr ystod maen nhw’n derbyn, byddwn ni’n ar y trac i gyrraedd y nod yn 2050.
Felly, dwi ddim yn cytuno o gwbl nad oes digon o uchelgais yn y cynlluniau. Mae gwaith wedi bod yn digwydd er mwyn sicrhau eu bod nhw yn uchelgeisiol. Ond mae'r Aelod yn iawn i ddweud mai teclyn, os hoffwch chi, ar gyfer cynllunio yw hwn, ac mae'n rhaid gwireddu'r amcanion sydd yn y cynlluniau hefyd. Mae hynny, wrth gwrs, yn gwbl wir. Dwi ddim yn derbyn dŷn ni ddim wedi cael llwyddiant mor belled; mae'r llwyddiant wedi digwydd ar draws Cymru, ond dyw e ddim yn digwydd ym mhob awdurdod, dwi'n derbyn hynny hefyd. Ac mae angen sicrhau bod y cynlluniau sydd yn cael eu cytuno hefyd yn cael eu gwireddu. A byddwn ni'n gwneud popeth y gallwn ni fel Llywodraeth i sicrhau hynny.
Dwi wedi sôn yn barod yn fy ymateb i Sam Kurtz am un o'r pethau rydyn ni'n bwriadu ei wneud, sef sicrhau sut mae'r cynllun buddsoddi yn gallu adlewyrchu nid jest y cynlluniau ehangach sydd gan gynghorau ond sicrhau bod twf yn digwydd o ran y cynlluniau strategol ar y cyd â'r cynlluniau ehangach sydd gyda nhw, fel bod y sefyllfa'n hafal yn hytrach nag un lle mae un yn cael ei flaenoriaethu o flaen y llall. Ond rwy'n derbyn hefyd nad yw'r mesurau deddfwriaethol ar gael inni allu gorfodi rhai o'r canlyniadau yma. Dyna pam rydyn ni wedi cael y drafodaeth gyda chi fel plaid ar y cyd, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, i sicrhau beth mwy gallwn ni ei wneud o fewn deddfwriaeth i gryfhau'r fframwaith statudol sydd tu cefn i'r cynlluniau yma.
Rŷch chi'n iawn i ddweud hefyd bod yr elfen ddaearyddol yn gallu bod yn fwy heriol. Mae'r cynlluniau strategol presennol yn digwydd ar sail ardal awdurdod lleol yn ei gyfanrwydd, yn hytrach nag ar lefel is na hynny, ar lefel gymunedol, os hoffwch chi. Felly, beth mwy gallwn ni ei wneud er mwyn cryfhau ein gallu i gynllunio ar y sail honno? Ond mae gogwydd daearyddol wedi bod yn y trafodaethau sydd wedi digwydd eisoes. Rwy'n sicr, pan welith yr Aelod y cynlluniau terfynol, bydd hi'n gallu gweld hynny.
Gwnaethoch chi sôn am gwestiwn pam nad yw pob awdurdod lleol yn agor ysgol newydd. Wel, mae rhai awdurdodau lleol yn caniatáu i 90 y cant a mwy o'u plant i fynd i ysgolion Cymraeg eisoes. Felly, mae hynny'n gwestiwn o ddemograffeg. Felly, mae'n llawer mwy cymhleth nag y mae'r feirniadaeth honno'n ei awgrymu. Ond mae'n bwysig i sicrhau ein bod ni'n cadw llygad barcud i sicrhau bod cynnydd yn digwydd, ac felly dwi wedi bod yn glir bod angen cynnydd ym mhob blwyddyn. Felly, bydd monitro blynyddol ar sail y cynlluniau gweithredol bydd yn cael eu cyhoeddi gan yr awdurdodau ar ôl y cynlluniau strategol, a bydd hynny ar gael inni i gyd graffu arno a sicrhau bod cynnydd yn digwydd o flwyddyn i flwyddyn.