Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Felly, fel y dywedais yn gynharach, un o'r problemau gyda'r system bresennol lle gallan nhw wneud y newid i 20 mya yw'r amser y mae hynny'n ei gymryd. Os ydych chi am gyflwyno'r newid hwn—ac rwy'n eich annog i beidio â gwneud hynny—ond os ydych chi am gyflwyno'r newid hwn a'ch bod yn llwyddo i gael y pleidleisiau i wneud hynny heddiw, a wnewch chi ein sicrhau y bydd gennych chi broses gryno, amserlen fer i allu caniatáu'r eithriadau hyn, lle y gallai fod angen eithriad ar gyfer 30 mya neu 40 mya neu beth bynnag y bo, yn y mannau hynny lle mae'n briodol?