Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i. Wrth i Lywodraeth Cymru adolygu ei strategaeth TB buchol, teimlai Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig fod hwn yn gyfle da i gynnal ymchwiliad byr a sydyn i'r rhaglen. O'r cychwyn cyntaf, hoffwn ddiolch i'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor ac a helpodd i lunio ein hadroddiad.
Un o'r rhai a roddodd dystiolaeth oedd Roger Lewis, ffermwr godro yn sir Benfro, a eglurodd fod ganddo 47 o wartheg yn ynysu o ganlyniad i achosion o TB. Dywedodd Roger wrthym ei fod yn gorfod arllwys gwerth £300 o laeth, a bwydo gwerth £100 o ddwysfwyd i'r gwartheg bob dydd. Fodd bynnag, dim ond rhan o'r boen i ffermwyr yw'r baich ariannol sy'n deillio o achosion, gan fod Roger wedi dweud wrth y pwyllgor hefyd am y trallod emosiynol a deimlai wrth weld ei wartheg wedi eu cau i mewn o un diwrnod i'r llall. Lywydd dros dro, roeddwn am agor y ddadl hon drwy dynnu sylw at brofiad Roger oherwydd credaf ei bod yn bwysig i'r Aelodau glywed barn ffermwyr tebyg iddo, fel y gallwn ddeall yn well beth yw'r effaith y mae achosion o TB yn ei chael ar ffermydd ledled Cymru.
Nawr, mae adroddiad y pwyllgor yn canolbwyntio ar bum maes allweddol y mae'n rhaid i'r Llywodraeth fynd i'r afael â hwy os ydynt am greu strategaeth ddiwygiedig a fydd yn dileu TB ac yn cefnogi ffermwyr drwy'r broses. Y meysydd hynny yw ymgysylltu â ffermwyr a'r diwydiant ehangach; prynu gwybodus; profion; iawndal; a bywyd gwyllt.
Clywsom fod y gwledydd a fu'n fwyaf llwyddiannus gyda rhaglenni dileu TB yn ymgysylltu'n dda iawn â ffermwyr. Dywedodd yr Athro Glyn Hewinson wrth yr Aelodau fod y systemau yn Iwerddon a Seland Newydd, lle ceir tystiolaeth o ymgysylltu da â ffermwyr, wedi arwain at ganlyniadau da. Felly, ar sail y gwaith da hwnnw, mae'r pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddilyn llwybr cydgynhyrchu wrth ddatblygu ei pholisi TB buchol, er mwyn denu cefnogaeth ddiffuant y diwydiant ffermio. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y pwyllgor ar ymgysylltu a'r egwyddor o gydgynhyrchu, a gwn o ddatganiad y Gweinidog yn gynharach yr wythnos hon ei bod yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar ymgysylltu â ffermwyr, ac adroddiad grŵp ffocws NFU Cymru ar TB.
Edrychodd y pwyllgor hefyd ar brynu gwybodus, ac fel y gŵyr yr Aelodau, ceir agwedd wirfoddol ar hyn o bryd tuag at brynu gwybodus yng Nghymru, lle caiff ffermwyr eu hannog i sicrhau bod hanes profion eu buchesi ar gael yn y man gwerthu i ganiatáu asesiad o lefel y risg o TB. Ystyriodd y pwyllgor a fyddai prynu gwybodus ar sail orfodol yn ffordd ymlaen, er bod y dystiolaeth a gawsom yn rhoi darlun cymysg iawn. Dadleuodd rhai tystion o blaid prynu gwybodus ar sail orfodol, gan ddweud y byddai hyn yn helpu ffermwyr i wneud y peth iawn, ond clywodd y pwyllgor hefyd y gallai greu system ddwy haen, lle bydd gwerth is i anifeiliaid yr ystyrir eu bod yn risg uwch.
Fodd bynnag, roedd un peth yn glir iawn: rhaid i brynu gwybodus, boed ar sail wirfoddol neu orfodol, fod yn seiliedig ar ddata cadarn. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru yn datblygu cronfa ddata amlrywogaeth newydd, EID Cymru, ac mae hyn yn gyfle i wella'r wybodaeth a ddarperir yn rhan o brynu gwybodus. Serch hynny, er bod rhanddeiliaid yn cefnogi datblygiad EID Cymru, codwyd pryderon dilys ganddynt am gydweddoldeb â gwahanol weinyddiaethau'r DU. Felly, er fy mod yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor yr argymhellion ynghylch prynu gwybodus, nid aeth i'r afael â mater cydweddoldeb â systemau data eraill yn y DU, felly rwy'n gobeithio yr aiff y Gweinidog i'r afael â'r mater yn ei hymateb i'r ddadl hon.
Fel rhan o'r ymchwiliad, archwiliodd y pwyllgor y syniad o gynyddu profion TB, drwy ailgyflwyno profion cyn symud mewn ardaloedd risg isel a chynyddu sensitifrwydd y profion a ddefnyddir. Er bod cefnogaeth eang i gynyddu profion cyn symud, lleisiodd undebau'r ffermwyr bryderon y byddai profion mwy sensitif yn arwain at fwy o ganlyniadau positif anghywir, a fyddai yn eu tro'n cael effaith economaidd-gymdeithasol negyddol ar y diwydiant ffermio. Mae'r pwyllgor wedi argymell y dylid cynnal asesiad effaith economaidd-gymdeithasol manwl o unrhyw newidiadau i drefn profion TB, ac mae'n dda gweld bod yr argymhelliad hwnnw wedi'i dderbyn.
Lywydd dros dro, clywodd y pwyllgor sut y mae iawndal TB yn faes lle mae Llywodraeth Cymru yn gorwario arno dro ar ôl tro, sy'n anghynaliadwy. Un o'r atebion a gynigiwyd ar gyfer hyn yw symud oddi wrth y prisiad fesul buwch unigol a wneir ar hyn o bryd i system dablaidd ar gyfer iawndal, a chlywodd yr aelodau dystiolaeth o blaid symud gan yr RSPCA ac yn erbyn gan undebau'r ffermwyr. Daeth y pwyllgor i'r casgliad fod yn rhaid defnyddio iawndal TB i wobrwyo ffermio da ac os cyflwynir system iawndal dablaidd, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw ffermwyr sy'n magu gwartheg gwerth uchel yn cael eu trin yn annheg ac nad ydynt ar eu colled. Roedd aelodau'r Pwyllgor yn deall bod y rhaglen iawndal bresennol yn ddrud. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod y bydd ennill cefnogaeth ffermwyr i unrhyw system newydd yn hanfodol i'w llwyddiant.
Yn olaf, er i'r pwyllgor geisio cyfyngu ar ei waith ar fywyd gwyllt yn yr ymchwiliad hwn, wrth i'r ddadl honno barhau, roeddem yn credu bod bwlch yn y data ynghylch TB buchol mewn bywyd gwyllt. Yn yr ymateb i'r adroddiad, nododd Llywodraeth Cymru sawl astudiaeth a byddwn ni fel pwyllgor yn parhau i fonitro unrhyw waith gwyddonol a wneir yn y maes hwn.
Felly, Lywydd dros dro, efallai mai ymchwiliad byr a sydyn yw hwn, ond serch hynny mae ei gynnwys a'i adroddiad yn hanfodol, ac felly edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau am yr adroddiad a sut y gallwn helpu i wella polisi dileu TB Cymru cyn cyhoeddi'r cynllun cyflawni wedi'i adnewyddu yn ddiweddarach eleni. Diolch yn fawr.