– Senedd Cymru am 5:14 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Symud ymlaen at eitem 9, dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Adnewyddu Rhaglen Ddileu TB Buchol Cymru'. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Paul Davies.
Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i. Wrth i Lywodraeth Cymru adolygu ei strategaeth TB buchol, teimlai Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig fod hwn yn gyfle da i gynnal ymchwiliad byr a sydyn i'r rhaglen. O'r cychwyn cyntaf, hoffwn ddiolch i'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor ac a helpodd i lunio ein hadroddiad.
Un o'r rhai a roddodd dystiolaeth oedd Roger Lewis, ffermwr godro yn sir Benfro, a eglurodd fod ganddo 47 o wartheg yn ynysu o ganlyniad i achosion o TB. Dywedodd Roger wrthym ei fod yn gorfod arllwys gwerth £300 o laeth, a bwydo gwerth £100 o ddwysfwyd i'r gwartheg bob dydd. Fodd bynnag, dim ond rhan o'r boen i ffermwyr yw'r baich ariannol sy'n deillio o achosion, gan fod Roger wedi dweud wrth y pwyllgor hefyd am y trallod emosiynol a deimlai wrth weld ei wartheg wedi eu cau i mewn o un diwrnod i'r llall. Lywydd dros dro, roeddwn am agor y ddadl hon drwy dynnu sylw at brofiad Roger oherwydd credaf ei bod yn bwysig i'r Aelodau glywed barn ffermwyr tebyg iddo, fel y gallwn ddeall yn well beth yw'r effaith y mae achosion o TB yn ei chael ar ffermydd ledled Cymru.
Nawr, mae adroddiad y pwyllgor yn canolbwyntio ar bum maes allweddol y mae'n rhaid i'r Llywodraeth fynd i'r afael â hwy os ydynt am greu strategaeth ddiwygiedig a fydd yn dileu TB ac yn cefnogi ffermwyr drwy'r broses. Y meysydd hynny yw ymgysylltu â ffermwyr a'r diwydiant ehangach; prynu gwybodus; profion; iawndal; a bywyd gwyllt.
Clywsom fod y gwledydd a fu'n fwyaf llwyddiannus gyda rhaglenni dileu TB yn ymgysylltu'n dda iawn â ffermwyr. Dywedodd yr Athro Glyn Hewinson wrth yr Aelodau fod y systemau yn Iwerddon a Seland Newydd, lle ceir tystiolaeth o ymgysylltu da â ffermwyr, wedi arwain at ganlyniadau da. Felly, ar sail y gwaith da hwnnw, mae'r pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddilyn llwybr cydgynhyrchu wrth ddatblygu ei pholisi TB buchol, er mwyn denu cefnogaeth ddiffuant y diwydiant ffermio. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y pwyllgor ar ymgysylltu a'r egwyddor o gydgynhyrchu, a gwn o ddatganiad y Gweinidog yn gynharach yr wythnos hon ei bod yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar ymgysylltu â ffermwyr, ac adroddiad grŵp ffocws NFU Cymru ar TB.
Edrychodd y pwyllgor hefyd ar brynu gwybodus, ac fel y gŵyr yr Aelodau, ceir agwedd wirfoddol ar hyn o bryd tuag at brynu gwybodus yng Nghymru, lle caiff ffermwyr eu hannog i sicrhau bod hanes profion eu buchesi ar gael yn y man gwerthu i ganiatáu asesiad o lefel y risg o TB. Ystyriodd y pwyllgor a fyddai prynu gwybodus ar sail orfodol yn ffordd ymlaen, er bod y dystiolaeth a gawsom yn rhoi darlun cymysg iawn. Dadleuodd rhai tystion o blaid prynu gwybodus ar sail orfodol, gan ddweud y byddai hyn yn helpu ffermwyr i wneud y peth iawn, ond clywodd y pwyllgor hefyd y gallai greu system ddwy haen, lle bydd gwerth is i anifeiliaid yr ystyrir eu bod yn risg uwch.
Fodd bynnag, roedd un peth yn glir iawn: rhaid i brynu gwybodus, boed ar sail wirfoddol neu orfodol, fod yn seiliedig ar ddata cadarn. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru yn datblygu cronfa ddata amlrywogaeth newydd, EID Cymru, ac mae hyn yn gyfle i wella'r wybodaeth a ddarperir yn rhan o brynu gwybodus. Serch hynny, er bod rhanddeiliaid yn cefnogi datblygiad EID Cymru, codwyd pryderon dilys ganddynt am gydweddoldeb â gwahanol weinyddiaethau'r DU. Felly, er fy mod yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor yr argymhellion ynghylch prynu gwybodus, nid aeth i'r afael â mater cydweddoldeb â systemau data eraill yn y DU, felly rwy'n gobeithio yr aiff y Gweinidog i'r afael â'r mater yn ei hymateb i'r ddadl hon.
Fel rhan o'r ymchwiliad, archwiliodd y pwyllgor y syniad o gynyddu profion TB, drwy ailgyflwyno profion cyn symud mewn ardaloedd risg isel a chynyddu sensitifrwydd y profion a ddefnyddir. Er bod cefnogaeth eang i gynyddu profion cyn symud, lleisiodd undebau'r ffermwyr bryderon y byddai profion mwy sensitif yn arwain at fwy o ganlyniadau positif anghywir, a fyddai yn eu tro'n cael effaith economaidd-gymdeithasol negyddol ar y diwydiant ffermio. Mae'r pwyllgor wedi argymell y dylid cynnal asesiad effaith economaidd-gymdeithasol manwl o unrhyw newidiadau i drefn profion TB, ac mae'n dda gweld bod yr argymhelliad hwnnw wedi'i dderbyn.
Lywydd dros dro, clywodd y pwyllgor sut y mae iawndal TB yn faes lle mae Llywodraeth Cymru yn gorwario arno dro ar ôl tro, sy'n anghynaliadwy. Un o'r atebion a gynigiwyd ar gyfer hyn yw symud oddi wrth y prisiad fesul buwch unigol a wneir ar hyn o bryd i system dablaidd ar gyfer iawndal, a chlywodd yr aelodau dystiolaeth o blaid symud gan yr RSPCA ac yn erbyn gan undebau'r ffermwyr. Daeth y pwyllgor i'r casgliad fod yn rhaid defnyddio iawndal TB i wobrwyo ffermio da ac os cyflwynir system iawndal dablaidd, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw ffermwyr sy'n magu gwartheg gwerth uchel yn cael eu trin yn annheg ac nad ydynt ar eu colled. Roedd aelodau'r Pwyllgor yn deall bod y rhaglen iawndal bresennol yn ddrud. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod y bydd ennill cefnogaeth ffermwyr i unrhyw system newydd yn hanfodol i'w llwyddiant.
Yn olaf, er i'r pwyllgor geisio cyfyngu ar ei waith ar fywyd gwyllt yn yr ymchwiliad hwn, wrth i'r ddadl honno barhau, roeddem yn credu bod bwlch yn y data ynghylch TB buchol mewn bywyd gwyllt. Yn yr ymateb i'r adroddiad, nododd Llywodraeth Cymru sawl astudiaeth a byddwn ni fel pwyllgor yn parhau i fonitro unrhyw waith gwyddonol a wneir yn y maes hwn.
Felly, Lywydd dros dro, efallai mai ymchwiliad byr a sydyn yw hwn, ond serch hynny mae ei gynnwys a'i adroddiad yn hanfodol, ac felly edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau am yr adroddiad a sut y gallwn helpu i wella polisi dileu TB Cymru cyn cyhoeddi'r cynllun cyflawni wedi'i adnewyddu yn ddiweddarach eleni. Diolch yn fawr.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu. Mae TB buchol wedi bod yn gwmwl tywyll dros ddiwydiant amaethyddol Cymru ers gormod o amser, gan achosi i rai ffermwyr golli eu busnesau, eu bywoliaeth a chan effeithio'n ddifrifol ar eu hiechyd meddwl. A dweud y gwir, nid wyf yn poeni pwy gaiff y clod am ddileu TB o fuchesi Cymru, oherwydd ei fod yn glefyd mor filain sy'n achosi caledi aruthrol, rwyf ond eisiau iddo gael ei ddatrys unwaith ac am byth. Fel y mae'r diwydiant.
Mae'r adroddiad pwyllgor hwn yn cael ei drafod yn yr un wythnos ag y rhoddodd Llywodraeth Cymru ei diweddariad TB, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion yn llawn neu mewn egwyddor. Mae'r argymhellion a gyflwynwyd gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â'r broblem hon, gan ddod â ffermwyr yn ôl at y gwaith o wneud penderfyniadau ynglŷn â TB ar eu ffermydd. Mae cymaint hefyd y gallwn ei ddysgu gan wledydd eraill, megis Iwerddon, Seland Newydd a Lloegr, am y ffordd y byddent yn rheoli ac yn dileu TB buchol.
Gan ganolbwyntio ar ychydig o bwyntiau penodol, er bod rhywfaint o obaith, sydd i'w groesawu, fod nifer blynyddol yr anifeiliaid a laddir er mwyn rheoli TB wedi gostwng o 11,655 i 10,117, rhaid inni gofio, fodd bynnag, fod dros 100,000 o wartheg wedi'u lladd ers 2008—nifer sylweddol a gofidus o fawr.
Mae argymhelliad 10 yn nodi'r prinder milfeddygon a'r posibilrwydd o gyflwyno brechwyr lleyg i frechu gwartheg a phrofwyr lleyg i brofi gwartheg. Mae hwn yn argymhelliad pragmatig, sy'n rhyddhau milfeddygon gan barhau i'w gwneud hi'n bosibl cynnal profion TB, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i hynny. Fodd bynnag, hoffwn gael rhagor o wybodaeth ynghylch pryd y byddai Llywodraeth Cymru yn meddwl y gellid gweithredu hyn.
Yn ogystal, mae argymhellion 11 a 12 yn galw ar Lywodraeth Cymru i
'ddefnyddio taliadau iawndal TB i wobrwyo arferion ffermio da'. ac yn datgan,
'Os bydd Llywodraeth Cymru yn dewis cyflwyno system dablaidd, rhaid iddi sicrhau nad yw ffermwyr sy’n magu gwartheg uchel eu gwerth (e.e. pedigrî) yn cael eu trin yn annheg ac nad ydynt ar eu colled.'
Er bod peth croeso i'r ffaith bod y Llywodraeth yn derbyn yr egwyddorion hyn, teimlaf fod yr ymateb yn un dros dro braidd, sy'n egluro bod y drefn daliadau dan ystyriaeth, gyda'r sylw ychwanegol y bydd costau canlyniadol yn cael eu tynnu o gyllidebau rhaglenni presennol. Felly, mae'n peri pryder i mi, gan nad oes arian newydd yn cael ei ddarparu i fynd i'r afael â'r clefyd hwn, fod hynny'n gadael y Llywodraeth yn agored i'r cyhuddiad mai tincran ar ymylon y broblem yn unig y mae'n ei wneud.
Mae dybryd angen cyfaill ar ffermio, yn enwedig mewn perthynas â TB. Rwy'n mawr obeithio heddiw, ar ôl y degawd anodd diwethaf i ffermwyr yn y frwydr yn erbyn TB, fod yr adroddiad hwn a datganiad Llywodraeth Cymru yn arwydd o droi'r dudalen gyda strategaeth wedi'i hadfywio i ddileu TB. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, yr Aelod dros Breseli Sir Benfro; y tîm clercio; y tystion a roddodd eu tystiolaeth; ac i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor. Diolch.
Wel, mae'n amhosib gorbwysleisio pwysigrwydd y diwydiant ffermio i Gymru wledig. Busnesau ffermio yng Nghymru ydy asgwrn cefn economi wledig Cymru, yr echel y mae cymunedau gwledig yn troi o'i chwmpas. Mae cynhwysion crai sydd yn cael eu cynhyrchu yma yn ganolog i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, sy'n werth miliynau o bunnoedd ac yn cyflogi dros 239,000 o bobl yma. Ond mae diciâu mewn gwartheg yn parhau i daflu cysgod tywyll ar draws y diwydiant yng Nghymru, ac mae'n un o'r prif fygythiadau i gyflawni'n gweledigaeth o ddiwydiant amaethyddol cynhyrchiol, blaengar a phroffidiol yma. Mae'r dicter a'r rhwystredigaeth yn y diwydiant o ran methiant Llywodraethau olynol dro ar ôl tro i weithredu strategaeth gynhwysfawr i ddileu diciâu yng Nghymru ar ei mwyaf erioed.
Dwi am atseinio barn yr undebau amaethol ynghylch eu gwrthwynebiad i system prisio yn ôl tabl—y tabulation rydym ni wedi clywed amdano—fel modd o bennu iawndal yn sgil y diciâu. Mae gan gynnig o'r fath ddiffygion sylweddol, ond oherwydd cyfyngder amser, dwi am bwysleisio un gwendid yn benodol, sef nad ydy system o'r fath yn deg i'r ffermwyr nac i'r Llywodraeth, oherwydd mae system sy'n seiliedig ar gyfartaleddau yn debygol o greu cynifer o achosion o orbrisio ag sy'n cael eu creu o danbrisio. Fedrwn ni ddim derbyn prisio yn ôl tabl heb sicrwydd felly fod ffermwyr am gael pris teg.
Mae'r sector filfeddygol yn wynebu heriau sylweddol ar hyn o bryd, a hynny yn sgil Brexit wrth i nifer o filfeddygon adael y wlad yma a mynd yn ôl i wlad eu mebyd. Mae hyn yn ei dro yn achosi trafferthion wrth brofi ar gyfer y diciâu ac fe glywodd y pwyllgor bryder fod hyn yn cael effaith uniongyrchol ar ffermydd a phrofion y diciâu. Mae aelodau Undeb Amaethwyr Cymru wedi cael eu cosbi oherwydd diffyg personél ac adnoddau milfeddygol. Felly, dwi’n annog y Llywodraeth i sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael cyn cyflwyno unrhyw ofynion profi cynyddol. Un ateb posibl, fel rydyn ni wedi'i glywed yn y cyswllt hwn, ydy cyflwyno profwyr lleyg; felly, mi fyddwn yn annog Llywodraeth Cymru i archwilio i hyn cyn gynted â phosibl.
Mae’r sefyllfa bresennol wedi dwysáu ymhellach gan raglen lywodraethu Llywodraeth Cymru 2021, sy’n datgan y bydd yn gwahardd difa moch daear i reoli lledaeniad y diciâu mewn gwartheg. Mae hyn yn gam gwag. Does yna ddim brechiad parod ar gyfer y diciâu mewn gwartheg na bywyd gwyllt, felly'r unig erfyn effeithiol sydd gennym ni ydy difa, ac mae’n rhaid i ddifa fod yn rhan o’r mix, er lles gwartheg a bywyd gwyllt. Mae yna dystiolaeth i gefnogi polisi effeithiol o ddileu’r diciâu dros y ffin yng Nghaerloyw a Gwlad yr Haf, ac fe welon ni ostyngiad o 66 y cant a 37 y cant yn nifer yr achosion yn y cyfnod difa yno. Does yna ddim ffordd arall wedi cael ei chynnig i fynd i’r afael â’r diciâu, felly mae’n rhaid defnyddio’r unig erfyn sydd gennym ni ar hyn o bryd, sef difa.
O ddarllen adroddiad y pwyllgor, mae’n rhyfeddol i mi ddeall nad oes yna ddata cywir ar lefel y clefyd ym mywyd gwyllt ychwaith. Dylai gwybodaeth o’r fath fod yn elfennol wrth ddatblygu polisi i fynd i’r afael â’r clefyd. Dydy o ddim yn syndod nad yw’r camau sydd wedi cael eu cymryd hyd yma ddim wedi llwyddo, gan mai dim ond un ochr o’r dystiolaeth sy’n cael ei hystyried. Mae’r diffyg yma yn y data yn gadael ein ffermwyr a bywyd gwyllt i lawr; mae’n rhaid gwella ar y data yma, felly. Mae’n rhaid i’r broblem yma ddod i ben. Mae pawb yma yn gytûn na all y sefyllfa bresennol barhau, ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ffermwyr yn cael digon o gefnogaeth i ddileu’r clefyd erchyll yma o’r gwartheg ac o fywyd gwyllt.
Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am adroddiad diddorol. Cofiaf gael fy ethol yn 2007, ac roedd pryderon difrifol ynghylch TB buchol yng Nghymru bryd hynny, ond mae'r data'n dangos pa mor bell y daethom. Mae yna ddarlun newydd yn awr, fel y dywedodd y Gweinidog yn ei datganiad diweddaraf. Mae nifer yr achosion newydd mewn buchesi wedi gostwng 56 y cant ers 2008, ac rydym wedi cyrraedd yma drwy fod y Llywodraeth a'r diwydiant ffermio wedi cydweithio a dilyn y wyddoniaeth. Mae profion sensitifrwydd uwch yn arbennig wedi bod yn hanfodol. Mae llawer i'w wneud eto wrth gwrs, ond mae'r adroddiad hwn yn arwydd defnyddiol arall ar y ffordd i ddileu'r clefyd. Ac rydym i gyd am gyrraedd yno cyn gynted â phosibl.
Fel y nododd RSPCA Cymru yn eu tystiolaeth,
'mae'r clefyd yn cael ei ledaenu'n bennaf rhwng gwartheg', gyda symudiadau gwartheg yn brif risg o ran trosglwyddo. Felly, mae'r dystiolaeth am bersonél ac adnoddau milfeddygol yn arbennig o bwysig, ac edrychaf ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynllun peilot y profwyr lleyg maes o law.
Fel yr eglurodd Dr Gareth Enticott o Brifysgol Caerdydd i'r pwyllgor, gallai cyflwyno profion lleyg helpu'n arbennig i gadw milfeddygon yn ardal Canolbarth a Gorllewin Cymru. Gan aros yn fy rhanbarth i, nid oedd y pwyllgor wedi clywed am y prosiect peilot ar gyfer sir Benfro, ond soniodd y Gweinidog amdano yn ei datganiad, a byddai'n dda cael mwy o fanylion, os gwelwch yn dda, ar ôl y cyfarfod ffurfiol cyntaf yn sioe sir Benfro efallai.
Yn yr un modd, clywodd y pwyllgor ychydig am frechu moch daear, ond nid gwartheg. Ym mis Tachwedd, dywedodd prif swyddog milfeddygol Cymru:
'Rydym yn parhau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu brechlyn TB gwartheg y gellir ei ddefnyddio gyda phrawf i wahaniaethu rhwng anifeiliaid sydd wedi'u brechu ac anifeiliaid heintus erbyn 2025.'
'Mae potensial i frechu gwartheg ddod yn arf pwerus yn y frwydr yn erbyn y clefyd a byddwn yn trafod gyda'r Ganolfan Ragoriaeth TB i gynllunio sut i'w wneud yn y ffordd fwyaf priodol yng Nghymru.'
Felly, unwaith eto, gofynnaf am yr wybodaeth ddiweddaraf am hynny. Ond rwy'n falch iawn fy mod wedi cymryd rhan yn y ddadl hon, ac edrychaf ymlaen at wrando ar eraill.
Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Cadeirydd ac aelodau'r pwyllgor am adolygu'r cynigion a geir yn yr ymgynghoriad ar raglen ddiwygiedig i ddileu TB. Rwyf wedi ymateb yn ffurfiol i adroddiad y pwyllgor a drafodir gennym yma heddiw, a chefais fy nghalonogi wrth weld bod yr argymhellion yn cyd-fynd yn fras â'n cynigion.
Amlinellais fy mwriad i adnewyddu ein rhaglen i ddileu TB fis Tachwedd diwethaf. Roedd ein cynllun cyflawni presennol, sy'n dyddio'n ôl i 2017, yn nodi mesurau gwell, sydd wedi'u rhoi ar waith ers hynny fel rhan o ddull gweithredu rhanbarthol. Mae ein rhaglen yn parhau i fod yn seiliedig ar bedair egwyddor allweddol rheoli clefyd heintus: ei gadw allan, ei ganfod yn gyflym, ei atal rhag lledaenu a'i ddileu. Mae'r ystadegau TB diweddaraf yn dangos bod cynnydd wedi'i wneud ledled Cymru, gyda gostyngiadau hirdymor mewn nifer o ddangosyddion allweddol, megis digwyddedd a lefelau achosion. Rydym hefyd yn gweld gostyngiadau rhanbarthol hirdymor yn nifer yr achosion o TB yn ein hardaloedd TB uchel, a bydd ein cynllun cyflawni newydd yn adeiladu ar y gwaith da hwn. Mae'r 246 o ymatebion i'r ymgynghoriad ar raglen wedi'i hadnewyddu i ddileu TB, a ddaeth i ben ym mis Chwefror, yn helpu i lywio ein strategaeth, wrth symud ymlaen. Mae'r crynodeb o'r ymatebion i'w weld ar ein gwefan.
Ym mis Tachwedd, comisiynais grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol i ystyried cyfathrebu â cheidwaid gwartheg ynghylch TB. Mae eu hargymhellion wedi'u cyhoeddi ac maent hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer ein dull o weithredu yn y dyfodol. Rwy'n falch o weld synergedd rhwng adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen, adroddiad grŵp ffocws NFU Cymru ar TB a'r adroddiad a gyflwynwyd gan y pwyllgor hwn. Mae thema sy'n codi dro ar ôl tro yn yr adroddiadau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd rôl milfeddygon yn y rhaglen dileu TB, ac yn enwedig eu perthynas â ffermwyr o ran cyfleu gwybodaeth gywir y gellir ymddiried ynddi.
Fel parhad o waith y grŵp gorchwyl a gorffen ac mewn ymateb i'w hargymhellion, edrychaf ymlaen at weld allbynnau gweithdy yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos nesaf i archwilio rôl y milfeddyg a'r rhyngwyneb rhwng Llywodraeth Cymru, milfeddygon a ffermwyr wrth fynd i'r afael â TB. Bydd yr allbynnau'n cael eu hystyried ochr yn ochr â chapasiti milfeddygol a datblygu cynllun peilot gyda phartneriaid cyflawni milfeddygol a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i dreialu'r defnydd o brofwyr TB lleyg yng Nghymru.
Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn nodi bwriadau uniongyrchol a mwy hirdymor ar gyfer ein rhaglen. Mae gennym lawer iawn o waith i'w wneud a byddaf i a fy swyddogion yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu a mireinio ein dull o weithredu ymhellach. Bydd y ffocws cychwynnol ar ddatblygu cynllun peilot gyda'r nod o leihau nifer yr achosion o TB yn sir Benfro a sefydlu grŵp cynghori technegol. Fel blaenoriaeth, bydd y grŵp yn ystyried ein trefn brofi TB ac yn darparu argymhellion annibynnol, gan sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn parhau i fod yn ganolog yn y rhaglen. Yn ddiweddarach eleni, byddaf yn cyhoeddi cynllun cyflawni wedi'i adnewyddu, yn gosod y camau nesaf ar gyfer y rhaglen. Byddaf yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid. Rwyf bob amser wedi pwysleisio mai drwy weithio mewn partneriaeth yn unig y caiff TB buchol ei ddileu.
Hoffwn ddiolch unwaith eto i bawb a ymatebodd i'n hymgynghoriad ac a gyfrannodd at yr amryw adroddiadau ac argymhellion, ac edrychaf ymlaen at ddarparu diweddariad pellach yn y Senedd maes o law. Diolch.
Galwaf ar Paul Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau, ac yn wir, i’r Gweinidog am eu cyfraniadau i’r ddadl hon. Rydym wedi clywed pa mor ddinistriol yw TB buchol i ffermwyr Cymru. Hoffwn ddweud wrth y sector fod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi eich clywed yn glir, a byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn i graffu ar Weinidogion er mwyn sicrhau gwelliannau yn y mater hwn.
Mae’n hollol gywir, serch hynny, fod rhaglen dileu TB Cymru yn gadarn ac yn effeithiol, ac er mwyn sicrhau hynny, mae’n rhaid inni weld mwy o ymgysylltu â’r sector yn y maes polisi hwn. Mae’r pwyllgor wedi dweud yn glir fod yn rhaid cael mwy o gefnogaeth gan ffermwyr i bolisïau’r Llywodraeth, ac mae'n rhaid iddynt gael eu trin fel partneriaid cyfartal gan Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu’r rhaglen dileu TB. Mae’r Athro Glyn Hewinson yn iawn i ddweud bod angen i hon fod yn ymdrech tîm Cymru, ac mae cynnwys ffermwyr, milfeddygon a’r Llywodraeth gyda’i gilydd wrth wneud penderfyniadau yn bwysig iawn.
Wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig fod y data a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru yn gywir ac yn gyfredol. Mae’r pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda ffermwyr i gasglu data lleol gwell ar heintiau mewn bywyd gwyllt, gan gynnwys casglu data ar lefelau’r haint ar dir fferm lle mae fferm wedi'i heintio â TB. Roedd data a’i bwysigrwydd yn rhan annatod o adroddiad y pwyllgor, boed hynny mewn perthynas â ffigurau bywyd gwyllt neu mewn perthynas â phrynu gwybodus neu newid y drefn brofi, ac felly rwy'n annog y Gweinidog i flaenoriaethu’r mater hwn ac i adolygu’r data cyn gynted â phosibl.
Mae Aelodau hefyd wedi codi mater digolledu, ac mae’n amlwg fod y rhaglen ddigolledu bresennol yn ddrud ac y bydd yn rhaid i rywbeth newid. Mae’r Gweinidog wedi dweud bod yn rhaid mai nod unrhyw drefn daliadau TB yw talu swm teg a phriodol am wartheg sy’n cael eu lladd, gan sicrhau hefyd ei bod yn deg â’r trethdalwr. Er bod hynny’n wir, mae’n rhaid iddi fod yn deg â’r ffermwr hefyd, ac felly gwn y bydd y pwyllgor yn parhau i gadw llygad barcud ar ddatblygiadau yn y maes hwn.
Crybwyllwyd prinder milfeddygon y prynhawn yma hefyd, ac rwy’n falch fod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad ac wedi cadarnhau y byddwch yn archwilio’r defnydd ehangach o brofwyr TB lleyg. Deallaf y bydd cynllun peilot yn cael ei sefydlu dros yr haf i dreialu’r dull hwn, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy amdano maes o law, fel y nododd y Gweinidog yn gynharach.
Felly, i gloi, mae’r Gweinidog wedi dweud yn glir y bydd yn cyhoeddi cynllun cyflawni newydd yn nes ymlaen eleni, i nodi’r camau nesaf ar gyfer y rhaglen dileu TB, ac mae’r pwyllgor yn edrych ymlaen at graffu ar y cynllun hwnnw maes o law. Felly, a gaf fi ddiolch i’r Aelodau ac i’r Gweinidog am eu cyfraniadau heddiw, a dweud bod y pwyllgor yn edrych ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ar weithredu’r argymhellion yn ein hadroddiad maes o law? Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.