Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau, ac yn wir, i’r Gweinidog am eu cyfraniadau i’r ddadl hon. Rydym wedi clywed pa mor ddinistriol yw TB buchol i ffermwyr Cymru. Hoffwn ddweud wrth y sector fod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi eich clywed yn glir, a byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn i graffu ar Weinidogion er mwyn sicrhau gwelliannau yn y mater hwn.
Mae’n hollol gywir, serch hynny, fod rhaglen dileu TB Cymru yn gadarn ac yn effeithiol, ac er mwyn sicrhau hynny, mae’n rhaid inni weld mwy o ymgysylltu â’r sector yn y maes polisi hwn. Mae’r pwyllgor wedi dweud yn glir fod yn rhaid cael mwy o gefnogaeth gan ffermwyr i bolisïau’r Llywodraeth, ac mae'n rhaid iddynt gael eu trin fel partneriaid cyfartal gan Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu’r rhaglen dileu TB. Mae’r Athro Glyn Hewinson yn iawn i ddweud bod angen i hon fod yn ymdrech tîm Cymru, ac mae cynnwys ffermwyr, milfeddygon a’r Llywodraeth gyda’i gilydd wrth wneud penderfyniadau yn bwysig iawn.
Wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig fod y data a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru yn gywir ac yn gyfredol. Mae’r pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda ffermwyr i gasglu data lleol gwell ar heintiau mewn bywyd gwyllt, gan gynnwys casglu data ar lefelau’r haint ar dir fferm lle mae fferm wedi'i heintio â TB. Roedd data a’i bwysigrwydd yn rhan annatod o adroddiad y pwyllgor, boed hynny mewn perthynas â ffigurau bywyd gwyllt neu mewn perthynas â phrynu gwybodus neu newid y drefn brofi, ac felly rwy'n annog y Gweinidog i flaenoriaethu’r mater hwn ac i adolygu’r data cyn gynted â phosibl.
Mae Aelodau hefyd wedi codi mater digolledu, ac mae’n amlwg fod y rhaglen ddigolledu bresennol yn ddrud ac y bydd yn rhaid i rywbeth newid. Mae’r Gweinidog wedi dweud bod yn rhaid mai nod unrhyw drefn daliadau TB yw talu swm teg a phriodol am wartheg sy’n cael eu lladd, gan sicrhau hefyd ei bod yn deg â’r trethdalwr. Er bod hynny’n wir, mae’n rhaid iddi fod yn deg â’r ffermwr hefyd, ac felly gwn y bydd y pwyllgor yn parhau i gadw llygad barcud ar ddatblygiadau yn y maes hwn.
Crybwyllwyd prinder milfeddygon y prynhawn yma hefyd, ac rwy’n falch fod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad ac wedi cadarnhau y byddwch yn archwilio’r defnydd ehangach o brofwyr TB lleyg. Deallaf y bydd cynllun peilot yn cael ei sefydlu dros yr haf i dreialu’r dull hwn, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy amdano maes o law, fel y nododd y Gweinidog yn gynharach.
Felly, i gloi, mae’r Gweinidog wedi dweud yn glir y bydd yn cyhoeddi cynllun cyflawni newydd yn nes ymlaen eleni, i nodi’r camau nesaf ar gyfer y rhaglen dileu TB, ac mae’r pwyllgor yn edrych ymlaen at graffu ar y cynllun hwnnw maes o law. Felly, a gaf fi ddiolch i’r Aelodau ac i’r Gweinidog am eu cyfraniadau heddiw, a dweud bod y pwyllgor yn edrych ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ar weithredu’r argymhellion yn ein hadroddiad maes o law? Diolch yn fawr iawn.