Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Er gwaethaf heriau'r blynyddoedd diwethaf, mae gyda ni sawl stori o lwyddiant yma yng Nghymru, ac fe fydd y rhain yn gweithio fel catalydd i gyflawni ein targed. Rŷn ni wedi sôn yn barod am y profion optio allan ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed, a gafodd eu cyflwyno yng ngharchar Abertawe yn 2016. A thrwy wneud hyn, llwyddwyd i sicrhau micro-elimination yn y carchar—y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny. Mae hwn yn rhywbeth a oedd yn yr adroddiad wnaethoch chi ei ysgrifennu fel pwyllgor. Erbyn hyn, mae strategaeth ar waith yng ngharchar Berwyn hefyd, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi sicrhau cyllid i'w gyflwyno yng ngharchar Caerdydd. Y nod yw cael gwared ar y feirws yn holl garchardai Cymru yn y tymor hirach.
Ar ben hynny, mae cynllun cefnogol Follow Me yn ddull sefydledig o godi ymwybyddiaeth. O dan y cynllun hwn, mae staff o'r sector gwirfoddol, o Ymddiriedolaeth Hepatitis C, yn gweithio o fewn y llwybr clinigol, gyda phobl sy'n ei gweld yn heriol, i geisio help gan wasanaethau iechyd, ac yn eu hannog i gael eu profi a'u trin. Mae'r prosiect yn cael ei dreialu ar hyn o bryd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gyda gwaith codi ymwybyddiaeth mewn hosteli'r digartref yng Nghaerdydd, ac mae hyfforddiant pellach i staff i gael ei gyflwyno o safbwynt defnyddwyr gwasanaeth.
Rŷn ni'n ffodus bod rhwydwaith clinigol hepatitis C yn hynod o effeithiol ac yn ymroddedig yma yng Nghymru. Mae hyn yn arwain at arbed mwy na £40 miliwn mewn triniaethau cyffuriau ers i gyfryngau gwrthfeirol—anti-viral agents—sy'n gweithredu'n uniongyrchol, gael eu cyflwyno yn 2014. Mae'n ffordd hyblyg o ariannu cyffuriau a'u darparu i gleifion, yn gwella profiad y claf, gan wella canlyniadau a helpu i arbed costau hefyd. Er ein bod ni gyd yn ymwybodol o'r gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud, ac sydd i'w wneud eto, i wireddu ein targed o ddileu'r feirws erbyn 2030, rŷn ni'n parhau i weithio â'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru i gyflawni ein nod ar y cyd, a'n nod yw rhoi diweddariad pellach i chi yn yr hydref. Diolch.