10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Hepatitis C

– Senedd Cymru ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:36, 13 Gorffennaf 2022

Eitem 10 y prynhawn yma yw dadl gyntaf y Ceidwadwyr Cymreig, ar hepatitis C. Galwaf ar Russell George i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8064 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod Cymru wedi gwneud cynnydd da tuag at ddileu feirws hepatitis C drwy sefydlu rhwydwaith clinigol cenedlaethol hynod effeithiol, yn ogystal â chael mynediad teg a thryloyw at driniaeth ledled y wlad.

2. Yn nodi'r llwyddiannau arloesol mewn sawl maes, gan gynnwys dileu feirws hepatitis C ym mhoblogaeth Carchar Ei Mawrhydi Abertawe (y carchar remánd cyntaf yn y DU), yn ogystal â thrawsblannu a thrin organau'n llwyddiannus gan roddwyr a oedd wedi eu heintio â feirws hepatitis C i dderbynwyr newydd - peth arall i ddigwydd fan hyn am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig.

3. Yn cydnabod, er bod Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn ymrwymedig i'w nod o ddileu strategol, fod angen mwy o flaenoriaethu ac adnoddau gwleidyddol i gau'r bwlch profi a thriniaeth sydd wedi dod i'r amlwg oherwydd pandemig COVID-19 ac i sicrhau na fydd yn mynd tu hwnt i ddyddiad targed 2030.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gorfodi ailsefydlu gwasanaethau rheng flaen ar gyfer firysau a gludir yn y gwaed a gwasanaethau lleihau niwed ym mhob ardal bwrdd iechyd, fel y gellir ailddechrau'r broses o nodi, profi, a thrin cleifion feirws hepatitis C yng Nghymru, a'u cysylltu â gofal;

b) datblygu cynllun strategol cenedlaethol i ddileu feirws hepatitis C erbyn 2030 fan bellaf, sydd ag adnoddau cynaliadwy, sy'n canolbwyntio ar y claf ac sy'n canolbwyntio ar y llwybr cyfan;

c) sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu hariannu a'u bod yn atebol am gyflawni'r cynllun strategol cenedlaethol, o ran darparu gwasanaethau, monitro data ac adrodd ar berfformiad.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Russell George Russell George Conservative 5:36, 13 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o arwain y ddadl gyntaf o ddwy y prynhawn yma. Mae ein dadl gyntaf y prynhawn yma ar hepatitis C. Roeddwn yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol nodi rhywfaint o gefndir, efallai, i Aelodau a allai fod yn llai gwybodus ynghylch y mater hwn. Mae feirws hepatitis C (HCV) yn feirws a gludir yn y gwaed sy'n effeithio ar yr afu, ac os na chaiff ei drin, mae pedwar o bob pump o bobl sydd wedi'u heintio yn datblygu hepatitis C cronig, a all achosi sirosis angheuol, creithio'r afu, a all arwain at fethiant yr afu, yn ogystal â chanser yr afu. Mae'r feirws yn cael ei ledaenu pan fo gwaed unigolyn sydd wedi’i heintio yn mynd i mewn i lif gwaed unigolyn arall.

Y brif ffordd y caiff HCV ei ledaenu yn y DU yw drwy rannu nodwyddau wrth ddefnyddio cyffuriau. Gall tyllu’r corff neu datŵio gan ddefnyddio nodwyddau heb eu sterileiddio ledaenu’r feirws hefyd, ac ar adegau prin, mae modd ei ledaenu drwy gyswllt rhywiol, neu o’r fam i’r babi cyn neu yn ystod genedigaeth. Mae pobl eraill sydd â risg uwch o gael HCV yn cynnwys pobl sy’n dod i gysylltiad â gwaed, megis gweithwyr gofal iechyd, swyddogion carchar a phobl sydd wedi cael trallwysiad gwaed cyn 1991 yn y DU, neu mewn gwledydd nad ydynt yn sgrinio gwaed a roddwyd am y feirws.

Nid oes brechlyn ar gyfer HCV. Ystyrir bod meddyginiaethau newydd wedi chwyldroi'r driniaeth fel bod modd ei wella bellach mewn naw o bob 10 o bobl, os caiff ei drin yn gynnar. Mae triniaethau tabledi newydd yn fwy effeithiol ac yn arwain at lawer llai o sgil-effeithiau, ac mae triniaeth yn cymryd oddeutu wyth i 12 wythnos. Hyd yn oed os nad yw triniaeth yn cael gwared ar y feirws, gall arafu llid neu niwed i'r afu. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod gan 71 miliwn o bobl ledled y byd haint hepatitis C cronig. Mae’r DU yn wlad sydd â nifer isel o achosion, ac mae gan Gymru oddeutu 12,000 i 14,000 o bobl â HCV.

Mae llawer o'r hyn rwyf newydd ei amlinellu yn fy agoriad wedi dod o adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon blaenorol a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2019. Yn eu hadroddiad, 'Hepatitis C: Cynnydd tuag at ei ddileu yng Nghymru', nododd y pwyllgor nifer o argymhellion, a oedd yn cynnwys argymhellion y dylai Llywodraeth Cymru gynhyrchu strategaeth ddileu genedlaethol gynhwysfawr ar gyfer hepatitis C, ymgyrch ymwybyddiaeth wedi’i thargedu, a buddsoddiad yng ngharchardai Cymru i wella'r drefn brofi. Derbyniodd Llywodraeth Cymru y rhan fwyaf o’r argymhellion—mewn gwirionedd, derbyniodd bob un o’r argymhellion naill ai mewn egwyddor neu’n llawn.

Yn anffodus, mae Cymru’n eithriad ymhlith gwledydd y DU o ran ei thargedau dileu. Mae Cymru mewn perygl o fethu targed dileu Sefydliad Iechyd y Byd, sef 2030. Felly, yr hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni yn ein cynnig heddiw, Weinidog, yw adeiladu ar argymhellion y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fandadu ailsefydlu gwasanaethau rheng flaen ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed a gwasanaethau lleihau niwed ym mhob ardal bwrdd iechyd, fel y gellir ailddechrau’r gwaith o nodi, profi, a thrin cleifion HCV yng Nghymru a'u cysylltu â gofal. Rydym yn galw am gynllun strategol cenedlaethol i ddileu HCV erbyn 2030 fan bellaf, cynllun sydd ag adnoddau cynaliadwy ac sy'n canolbwyntio ar y claf. Mae'r trydydd pwynt yn ein cynnig yn galw am sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu hariannu’n llawn ac yn atebol am gyflawni’r cynllun strategol cenedlaethol.

Er bod y pwyllgor iechyd blaenorol wedi galw ar y Llywodraeth i ysgrifennu at fyrddau iechyd, rydym ni yn ein cynnig yn gofyn i’r Llywodraeth fynd hyd yn oed ymhellach a sicrhau bod gan ein byrddau iechyd lleol allu i gyflawni'r targed dileu. Heb weithredu, mae Cymru ar y trywydd i fethu ei hymrwymiad i ddileu hepatitis C erbyn 2030, gan arwain at y risg gynyddol o effeithiau pellach ar iechyd ac anghydraddoldebau iechyd yn ein cymunedau. Er mwyn cyrraedd targed i'w ddileu erbyn 2030 yng Nghymru, mae'n rhaid trin o leiaf 900 o gleifion bob blwyddyn, ac yn anffodus, 300 yn unig a gafodd driniaeth rhwng 2020 a 2022. Wrth gwrs, rwy’n derbyn mai'r pandemig yw'r rheswm am hyn. Fodd bynnag, hyd yn oed cyn y pandemig, roedd y cyfraddau triniaeth oddeutu 600 i 700 o gleifion y flwyddyn, na fyddai'n ddigon da erbyn hyn, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau a sylwadau’r Gweinidog yn ein dadl y prynhawn yma.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:41, 13 Gorffennaf 2022

Rydw i wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

4. Yn nodi:

a) disgwyliad Llywodraeth Cymru y bydd gwasanaethau rheng flaen ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed a gwasanaethau lleihau niwed, gan gynnwys ar gyfer hepatitis C, yn cael eu hailsefydlu ym mhob ardal bwrdd iechyd cyn gynted â phosibl;

b) bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r GIG yng Nghymru i gefnogi ei gynlluniau i sicrhau y gall Cymru gyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd, sef dileu hepatitis C erbyn 2030;

c) bod systemau sefydledig ar waith i sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu cefnogi a’u dal yn atebol am gyrraedd y targed o ran darparu gwasanaethau, monitro data ac adrodd ar berfformiad.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

Dwi'n falch bod y cynnig yma o'n blaenau ni heddiw. Rwyf innau yn mynd i fod yn cyfeirio at ambell i bwynt sydd wedi cael ei wneud yn barod. Mae gan o leiaf 8,000 o bobl yng Nghymru heintiad cronig hepatitis C. Heb ei drin o, wrth gwrs, mae e'n gallu creu ac achosi afiechydon difrifol iawn—sirosis yr iau, canser yr iau, a phroblemau iechyd eraill. Dwi'n gwybod, o fod wedi siarad efo etholwyr, pa effaith mae o'n gallu cael ar fywydau bob dydd pobl. Yng ngeiriau un etholwr, a gafodd hepatitis C drwy waed wedi ei heintio yn yr 1970au, 'Dydw i byth yn cael diwrnod da, dim ond dyddiau drwg neu rai drwg iawn.' 

Erbyn hyn, wrth gwrs, mae hi'n bosib trin hepatitis C, gwella ohono fo a'i atal o yn y lle cyntaf, ac, yn allweddol, mi allwn ni gael gwared ar hepatitis C yn llwyr. Ond er bod cael gwared arno fo yn bosib, a bod Cymru yn y gorffennol wedi cymryd camau breision tuag at ddileu erbyn 2030, y gwir ydy ein bod ni rŵan yn llithro yn ôl a dydyn ni ddim ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i daro'r targed. Cymru ydy'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig i beidio â chael targed o ddileu hepatitis C cyn y targed yna o 2030 sydd wedi'i osod gan Sefydliad Iechyd y Byd. Mae Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi pennu targed uchelgeisiol o ddileu erbyn 2025, a Llywodraeth yr SNP yn yr Alban yn gosod targed mwy uchelgeisiol fyth o ddileu erbyn 2020. 

Mi glywch chi'r Llywodraeth yma yng Nghymru yn dweud bod COVID wedi cael effaith, ac wrth gwrs dwi ddim yn amau hynny, ond hyd yn oed cyn y pandemig mi wnaeth y pwyllgor iechyd ddatgan pryderon nad oedden ni ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed 2030, hyd yn oed. Mae yna waith da iawn yn cael ei wneud. Dwi'n ddiolchgar iawn i'r rheini o fewn y gyfundrefn iechyd ac elusennau am y camau bras maen nhw wedi sicrhau sy'n digwydd yn barod, ond mae angen gweithredu ehangach gan Lywodraeth Cymru.

Yn gyntaf, mi ddylai'r Llywodraeth roi cyllidebau penodol mewn lle—cyllideb benodol ar gyfer hepatitis C. Mi fyddai hynny yn rhoi y sicrwydd sydd ei angen ar fyrddau iechyd i allu buddsoddi yn unol â'r broses o ddileu'r clefyd erbyn y dyddiad hwnnw. Yn ail, mae angen inni sicrhau bod arbedion—ac rydyn ni wedi eu gweld yn ddiweddar mewn costau triniaeth oherwydd newidiadau i systemau caffael a chaffael canolog llwyddiannus—yn cael eu hailfuddsoddi i ddod o hyd i gleifion hepatitis C sydd heb gael diagnosis. Yn drydydd, efo cyfraddau uchel iawn o heintiad hepatitis C ymhlith defnyddwyr cyffuriau sy'n chwistrellu, mae angen cymorth ariannol penodol yn y maes hwnnw i gynnig a chynnal mwy o brofion, er enghraifft. Mi hoffwn i glywed ymateb y Llywodraeth a'r Gweinidog i'r tri phwynt yna.

Mae gen i ambell sylw arall, a dau gwestiwn. Mae rhai o'r strategaethau a fydd yn ein helpu ni i ddileu HIV a'r gwaith sy'n cael ei wneud yn y maes hwnnw, rhywbeth sydd wedi cael sylw yn ddiweddar, hefyd yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn wrth inni geisio cyrraedd y nod o ddileu hepatitis C. Ydy'r Llywodraeth yn gwneud yn siŵr bod y ddau nod, neu'r ddau ymgyrch yna, yn gweithio law yn llaw i osgoi dyblygu? 

Ac yn olaf, gan symud oddi wrth y ffocws ychydig bach, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar waed wedi'i heintio, yr wythnos yma mi glywodd yr ymchwiliad i waed wedi'i heintio dystiolaeth gan Syr Robert Francis am gynllun iawndal posib i ddioddefwyr neu deuluoedd. Mi fuaswn i'n ddiolchgar o glywed pa drafodaeth mae'r Llywodraeth wedi'i gael efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar hynny yn ddiweddar. Diolch yn fawr.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:45, 13 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

I ailadrodd, mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun strategol cenedlaethol i ddileu HCV erbyn 2030 fan bellaf, cynllun sydd ag adnoddau cynaliadwy, sy'n canolbwyntio ar y claf ac sy'n canolbwyntio ar y llwybr cyfan. Amcangyfrifir bod o leiaf 8,000 o bobl yng Nghymru wedi’u heintio â hepatitis C cronig, ac nid yw oddeutu eu hanner yn ymwybodol fod ganddynt y feirws. Mae hepatitis C yn feirws a gludir yn y gwaed y gellir ei atal a'i drin ac sy'n effeithio'n bennaf ar yr afu. Gall fod yn angheuol heb driniaeth. Yn ystod dadl yma ar hepatitis C bum mlynedd yn ôl, a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei hymrwymiad i ddyddiad Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer dileu'r feirws, sef 2030, dywedais fod dileu hepatitis C fel pryder iechyd cyhoeddus difrifol yng Nghymru yn nod cwbl gyraeddadwy. Gan nodi, yn y 1970au a’r 1980au, fod cyfran fawr o’r cynhyrchion gwaed a gyflenwyd i gleifion gan y GIG wedi’i halogi â HIV neu hepatitis C, deuthum i’r casgliad, er mwyn dileu hepatitis C, fod yn rhaid inni ddod o hyd i’r 50 y cant o bobl nad ydynt wedi cael diagnosis hyd yma, drwy ehangu mynediad at brofion ac ymchwilio ymhellach i ba grwpiau y gellid eu sgrinio mewn modd costeffeithiol, a chyda thriniaethau newydd effeithiol a hygyrch bellach ar gael i bawb sydd eu hangen, ei bod yn haws nag erioed i drin a gwella cleifion, gan gynnig cyfle gwych i ddileu hepatitis C yng Nghymru. Roedd hynny bum mlynedd yn ôl. Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae angen gweithredu i gael y daith i ddileu hepatitis C yng Nghymru yn ôl ar y trywydd iawn, ac i atal Cymru rhag cael ei gadael ar ôl.

Wrth gwestiynu’r Gweinidog iechyd yma ym mis Chwefror, nodais mai’r targed i ddileu hepatitis C yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yw 2025, a 2024 yn yr Alban, a gofynnais i’r Gweinidog gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ei dyddiad targed i ddileu hepatitis yng Nghymru erbyn 2030 fan bellaf, ac wrth wneud hynny, sut y bydd yn mynd i’r afael â galwadau i harneisio'r arferion gorau a ddatblygwyd yng Nghymru a gwledydd eraill y DU. Er i’r Gweinidog gytuno i edrych i weld a oedd unrhyw bosibilrwydd o symud y dyddiad targed yng Nghymru, ysgrifennodd ataf wedi hynny, gan nodi:

'Er nad wyf yn diystyru symud y targed dileu ymlaen yn y dyfodol, yn realistig, mae ein targed presennol o ddileu erbyn 2030 eisoes yn heriol iawn... Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am ein cynnydd.’

Ac yna bod 'y byrddau iechyd yn gweithio ar gynlluniau adfer, ac mae fy swyddogion yn y broses o adolygu’r gwrthwynebiad er mwyn blaenoriaethu’r camau nesaf.’ Fodd bynnag, er gwaethaf effaith y pandemig ar wasanaethau iechyd a phoblogaethau gwledydd eraill y DU, nid ydynt wedi newid eu dyddiadau targed ar gyfer dileu, ac maent wedi rhoi cynlluniau a rhaglenni strategol cenedlaethol ac adnoddau ychwanegol ar waith. Pam y dylai Cymru orfod bod ar ei hôl hi unwaith eto?

Photo of David Rees David Rees Labour 5:49, 13 Gorffennaf 2022

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn a wnawn yng Nghymru i helpu i gyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd i ddileu hepatitis C fel bygythiad sylweddol i iechyd y cyhoedd erbyn 2030. Targed Sefydliad Iechyd y Byd yw gostyngiad o 90 y cant yn nifer yr achosion, a gostyngiad o 65 y cant yn y nifer sy'n marw o hepatitis C erbyn 2030. Rydym ni yng Nghymru yn falch o fod wedi ymrwymo i’r targed hwn; yn amlwg, os gallwn fynd yn gyflymach, byddwn yn gwneud hynny. Efallai eich bod wedi sylwi bod cryn dipyn yn digwydd yn y GIG ar hyn o bryd, ond nid ydym yn addasu'r targed a osodwyd gennym eisoes. Diolch i ddatblygiadau meddygol, mae meddyginiaethau gwrthfeirol newydd sy'n gweithredu'n uniongyrchol wedi chwyldroi'r broses o drin hepatitis C, fel bod modd gwella'r clefyd i bob pwrpas yn y camau cynnar bellach. Mae triniaethau'n effeithiol ac yn para am gyfnod cymharol fyr. Mae’r newid sylfaenol hwn yn y driniaeth yn rhoi cyfle i leihau nifer yr achosion o hepatitis C yn sylweddol ym mhob cymuned yng Nghymru.

Wrth gwrs, yn ystod pandemig COVID-19, bu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd i flaenoriaethu ein hadnoddau a'n harbenigedd mewn perthynas â diogelu iechyd. O ganlyniad, cafodd gwaith ar feysydd pwysig, gan gynnwys profion hepatitis C, ei ohirio dros dro. Ond rydym yn parhau'n ymrwymedig i weithio tuag at darged Sefydliad Iechyd y Byd ac i wella bywydau yng Nghymru. Mae ein ffocws ar gyfer dileu hepatitis C ar sicrhau bod gan fyrddau iechyd gynlluniau cadarn, cydlynus ar waith i allu canfod a thrin pobl sydd â hepatitis C drwy’r gwasanaethau lleihau niwed presennol, ac i wneud hyn, bydd angen inni ganolbwyntio ar unigolion nad ydynt yn gwybod bod y clefyd arnynt o bosibl, fel y nodwyd, neu sydd wedi bod yn amharod hyd yma i ymgysylltu â gwasanaethau iechyd traddodiadol. Rydym wedi gweithio gyda byrddau iechyd yn y gorffennol i nodi'r llwybr ar gyfer dileu hepatitis C, ac mae gennym swyddi a ariennir yn genedlaethol i gefnogi hyn.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:51, 13 Gorffennaf 2022

Er gwaethaf heriau'r blynyddoedd diwethaf, mae gyda ni sawl stori o lwyddiant yma yng Nghymru, ac fe fydd y rhain yn gweithio fel catalydd i gyflawni ein targed. Rŷn ni wedi sôn yn barod am y profion optio allan ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed, a gafodd eu cyflwyno yng ngharchar Abertawe yn 2016. A thrwy wneud hyn, llwyddwyd i sicrhau micro-elimination yn y carchar—y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny. Mae hwn yn rhywbeth a oedd yn yr adroddiad wnaethoch chi ei ysgrifennu fel pwyllgor. Erbyn hyn, mae strategaeth ar waith yng ngharchar Berwyn hefyd, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi sicrhau cyllid i'w gyflwyno yng ngharchar Caerdydd. Y nod yw cael gwared ar y feirws yn holl garchardai Cymru yn y tymor hirach.

Ar ben hynny, mae cynllun cefnogol Follow Me yn ddull sefydledig o godi ymwybyddiaeth. O dan y cynllun hwn, mae staff o'r sector gwirfoddol, o Ymddiriedolaeth Hepatitis C, yn gweithio o fewn y llwybr clinigol, gyda phobl sy'n ei gweld yn heriol, i geisio help gan wasanaethau iechyd, ac yn eu hannog i gael eu profi a'u trin. Mae'r prosiect yn cael ei dreialu ar hyn o bryd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gyda gwaith codi ymwybyddiaeth mewn hosteli'r digartref yng Nghaerdydd, ac mae hyfforddiant pellach i staff i gael ei gyflwyno o safbwynt defnyddwyr gwasanaeth.

Rŷn ni'n ffodus bod rhwydwaith clinigol hepatitis C yn hynod o effeithiol ac yn ymroddedig yma yng Nghymru. Mae hyn yn arwain at arbed mwy na £40 miliwn mewn triniaethau cyffuriau ers i gyfryngau gwrthfeirol—anti-viral agents—sy'n gweithredu'n uniongyrchol, gael eu cyflwyno yn 2014. Mae'n ffordd hyblyg o ariannu cyffuriau a'u darparu i gleifion, yn gwella profiad y claf, gan wella canlyniadau a helpu i arbed costau hefyd. Er ein bod ni gyd yn ymwybodol o'r gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud, ac sydd i'w wneud eto, i wireddu ein targed o ddileu'r feirws erbyn 2030, rŷn ni'n parhau i weithio â'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru i gyflawni ein nod ar y cyd, a'n nod yw rhoi diweddariad pellach i chi yn yr hydref. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:53, 13 Gorffennaf 2022

Galwaf ar Russell George i ymateb i'r ddadl.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Rhun ap Iorwerth a Mark Isherwood am eu cyfraniadau? Ni allaf anghytuno ag unrhyw beth a ychwanegwyd ganddynt at y ddadl y prynhawn yma. Diolch i’r Gweinidog am ei diweddariad—gallaf groesawu a chefnogi llawer ohono, wrth gwrs. Ceir rhai elfennau yr oeddwn yn siomedig yn eu cylch—rwyf am ganolbwyntio ar y meysydd hynny. Gwnaethom ofyn yn ein cynnig am ailsefydlu gwasanaethau rheng flaen ar gyfer firysau a gludir yn y gwaed a gwasanaethau lleihau niwed. Nid oedd y Gweinidog yn barod i dderbyn hynny yn ein cynnig, gan ddweud y bydd y gwasanaethau’n ailgychwyn cyn gynted â phosibl, ond mae’n siomedig na allem o leiaf gael dyddiad pan allai'r gwasanaethau fod wedi ailddechrau.

Y rhan arall i’n dadl y prynhawn yma, wrth gwrs, oedd gofyn am gynllun strategol i ddileu HCV. Ac mae'r Llywodraeth o ddifrif yn eithriad yn hyn o beth. Mae'r cynlluniau hynny ar waith gan gymaint o Lywodraethau ledled y byd, ac roeddem yn ymwybodol fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi galw am gynllun yn y gorffennol hefyd. Felly, nid ein cynnig heddiw yn unig sy'n galw am hyn, ond Aelodau ar draws y Siambr, ac mewn gwirionedd, cefnogodd dau Weinidog adroddiad y pwyllgor blaenorol. Roedd y Dirprwy Weinidog, Lynne Neagle, ar y pwyllgor a gefnogai'r adroddiad hwnnw ar y pryd, a’i hargymhelliad hi a alwai am gynllun i fynd i’r afael â HCV a’i ddileu. Felly, gobeithio y gall y Dirprwy Weinidog eich perswadio ar hynny. Roedd Dawn Bowden hefyd ar y pwyllgor a wnaeth yr argymhelliad hwnnw. Felly, gobeithio y gall cyd-Aelodau yn y Llywodraeth eich perswadio o'r angen am y cynllun. Ac roedd y Dirprwy Lywydd ar y pwyllgor a wnaeth yr un argymhelliad hefyd. Credaf fy mod wedi mynd drwy bawb yn awr—ac roedd fy nghyd-Aelod, Darren Millar, yno hefyd. A dyna bawb sydd yma ar hyn o bryd.

Ond diolch am eich diweddariad, Weinidog, ond byddai'n well gennym pe baech wedi mynd ymhellach gyda'r cynllun hwnnw wrth gwrs. Ni chredaf fod y sefyllfa bresennol yn ddigon da. Mae atebion dilys wedi'u cyflwyno. Rwy’n derbyn yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y pandemig, ond fel y nodais, hyd yn oed cyn y pandemig, nid oeddem yn trin digon o bobl hyd yn oed bryd hynny i gyflawni targedau Sefydliad Iechyd y Byd, y dywedwch ar hyn o bryd eich bod yn dal i fwriadu eu cyrraedd. Felly, credaf hefyd nad yw rhoi cyfrifoldeb ar fyrddau iechyd yn ddigon da. Credaf fod angen strategaeth arnom nad yw wedi'i chynllunio i fethu, un sy'n creu cynllun strategol manwl. Mae angen inni ariannu ein byrddau iechyd yn iawn, a dangos uchelgais yn y frwydr i ddileu’r feirws hwn. Rwy'n gwneud ein cynnig y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:56, 13 Gorffennaf 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.