Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o arwain y ddadl gyntaf o ddwy y prynhawn yma. Mae ein dadl gyntaf y prynhawn yma ar hepatitis C. Roeddwn yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol nodi rhywfaint o gefndir, efallai, i Aelodau a allai fod yn llai gwybodus ynghylch y mater hwn. Mae feirws hepatitis C (HCV) yn feirws a gludir yn y gwaed sy'n effeithio ar yr afu, ac os na chaiff ei drin, mae pedwar o bob pump o bobl sydd wedi'u heintio yn datblygu hepatitis C cronig, a all achosi sirosis angheuol, creithio'r afu, a all arwain at fethiant yr afu, yn ogystal â chanser yr afu. Mae'r feirws yn cael ei ledaenu pan fo gwaed unigolyn sydd wedi’i heintio yn mynd i mewn i lif gwaed unigolyn arall.
Y brif ffordd y caiff HCV ei ledaenu yn y DU yw drwy rannu nodwyddau wrth ddefnyddio cyffuriau. Gall tyllu’r corff neu datŵio gan ddefnyddio nodwyddau heb eu sterileiddio ledaenu’r feirws hefyd, ac ar adegau prin, mae modd ei ledaenu drwy gyswllt rhywiol, neu o’r fam i’r babi cyn neu yn ystod genedigaeth. Mae pobl eraill sydd â risg uwch o gael HCV yn cynnwys pobl sy’n dod i gysylltiad â gwaed, megis gweithwyr gofal iechyd, swyddogion carchar a phobl sydd wedi cael trallwysiad gwaed cyn 1991 yn y DU, neu mewn gwledydd nad ydynt yn sgrinio gwaed a roddwyd am y feirws.
Nid oes brechlyn ar gyfer HCV. Ystyrir bod meddyginiaethau newydd wedi chwyldroi'r driniaeth fel bod modd ei wella bellach mewn naw o bob 10 o bobl, os caiff ei drin yn gynnar. Mae triniaethau tabledi newydd yn fwy effeithiol ac yn arwain at lawer llai o sgil-effeithiau, ac mae triniaeth yn cymryd oddeutu wyth i 12 wythnos. Hyd yn oed os nad yw triniaeth yn cael gwared ar y feirws, gall arafu llid neu niwed i'r afu. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod gan 71 miliwn o bobl ledled y byd haint hepatitis C cronig. Mae’r DU yn wlad sydd â nifer isel o achosion, ac mae gan Gymru oddeutu 12,000 i 14,000 o bobl â HCV.
Mae llawer o'r hyn rwyf newydd ei amlinellu yn fy agoriad wedi dod o adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon blaenorol a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2019. Yn eu hadroddiad, 'Hepatitis C: Cynnydd tuag at ei ddileu yng Nghymru', nododd y pwyllgor nifer o argymhellion, a oedd yn cynnwys argymhellion y dylai Llywodraeth Cymru gynhyrchu strategaeth ddileu genedlaethol gynhwysfawr ar gyfer hepatitis C, ymgyrch ymwybyddiaeth wedi’i thargedu, a buddsoddiad yng ngharchardai Cymru i wella'r drefn brofi. Derbyniodd Llywodraeth Cymru y rhan fwyaf o’r argymhellion—mewn gwirionedd, derbyniodd bob un o’r argymhellion naill ai mewn egwyddor neu’n llawn.
Yn anffodus, mae Cymru’n eithriad ymhlith gwledydd y DU o ran ei thargedau dileu. Mae Cymru mewn perygl o fethu targed dileu Sefydliad Iechyd y Byd, sef 2030. Felly, yr hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni yn ein cynnig heddiw, Weinidog, yw adeiladu ar argymhellion y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fandadu ailsefydlu gwasanaethau rheng flaen ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed a gwasanaethau lleihau niwed ym mhob ardal bwrdd iechyd, fel y gellir ailddechrau’r gwaith o nodi, profi, a thrin cleifion HCV yng Nghymru a'u cysylltu â gofal. Rydym yn galw am gynllun strategol cenedlaethol i ddileu HCV erbyn 2030 fan bellaf, cynllun sydd ag adnoddau cynaliadwy ac sy'n canolbwyntio ar y claf. Mae'r trydydd pwynt yn ein cynnig yn galw am sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu hariannu’n llawn ac yn atebol am gyflawni’r cynllun strategol cenedlaethol.
Er bod y pwyllgor iechyd blaenorol wedi galw ar y Llywodraeth i ysgrifennu at fyrddau iechyd, rydym ni yn ein cynnig yn gofyn i’r Llywodraeth fynd hyd yn oed ymhellach a sicrhau bod gan ein byrddau iechyd lleol allu i gyflawni'r targed dileu. Heb weithredu, mae Cymru ar y trywydd i fethu ei hymrwymiad i ddileu hepatitis C erbyn 2030, gan arwain at y risg gynyddol o effeithiau pellach ar iechyd ac anghydraddoldebau iechyd yn ein cymunedau. Er mwyn cyrraedd targed i'w ddileu erbyn 2030 yng Nghymru, mae'n rhaid trin o leiaf 900 o gleifion bob blwyddyn, ac yn anffodus, 300 yn unig a gafodd driniaeth rhwng 2020 a 2022. Wrth gwrs, rwy’n derbyn mai'r pandemig yw'r rheswm am hyn. Fodd bynnag, hyd yn oed cyn y pandemig, roedd y cyfraddau triniaeth oddeutu 600 i 700 o gleifion y flwyddyn, na fyddai'n ddigon da erbyn hyn, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau a sylwadau’r Gweinidog yn ein dadl y prynhawn yma.